1. Ble'r aeth dy gariad, ti'r harddaf o ferched?Ble'r aeth e?Gad i ni chwilio amdano gyda'n gilydd.
2. Mae nghariad wedi mynd i lawr i'w ardd –i'w welyau o berlysiau.Mae wedi mynd i bori yn y gerddi,a chasglu'r lilïau.
3. Fy nghariad piau fi, a fi piau nghariad;mae e'n pori yng nghanol y lilïau.
4. F'anwylyd, rwyt ti'n hardd fel dinas Tirtsa,ac mor hyfryd â Jerwsalem.Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol!
5. Paid edrych arna i –mae dy lygaid yn fy aflonyddu!Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifryn dod i lawr o fynydd Gilead.
6. Mae dy ddannedd yn wynfel rhes o ddefaid newydd eu golchi.Maen nhw i gyd yn berffaith;does dim un ar goll.
7. Tu ôl i'r fêl mae dy fochaua'u gwrid fel pomgranadau.
8. Gallwn gael chwe deg brenhines,wyth deg o bartneriaid,a merched ifanc di-rif!