Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 4:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. O, rwyt mor hardd f'anwylyd!O, rwyt mor hardd!Mae dy lygaid fel colomennody tu ôl i'r fêl.Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifryn dod i lawr o fynydd Gilead.

2. Mae dy ddannedd yn wynfel rhes o ddefaid newydd eu cneifio a'u golchi.Maen nhw i gyd yn berffaith;does dim un ar goll.

3. Mae dy wefusau fel edau goch,a'th geg mor siapus.Tu ôl i'r fêl mae dy fochaua'u gwrid fel pomgranadau.

4. Mae dy wddf fel tŵr Dafydda'r rhesi o gerrig o'i gwmpas;mil o darianau yn hongian arno,fel arfau milwyr arwrol.

5. Mae dy fronnau yn berffaithfel dwy gasél ifanc, efeilliaidyn pori ymysg y lilïau.

6. Rhaid i mi fynd a dringomynydd myrr a bryn thus,ac aros yno hyd nes iddi wawrioac i gysgodion y nos ddiflannu.

7. Mae popeth amdanat mor hardd f'anwylyd!Ti'n berffaith!

8. Tyrd gyda mi o Libanus, fy nghariad,tyrd gyda mi o fryniau Libanus.Tyrd i lawr o gopa Amana,o ben Senir, sef copa Hermon;Tyrd i lawr o ffeuau'r llewoda lloches y llewpard.

9. Ti wedi cipio fy nghalon, ferch annwyl, fy nghariad.Ti wedi cipio fy nghalon gydag un edrychiad,un em yn dy gadwyn.

Darllenwch bennod gyflawn Caniad Solomon 4