Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 2:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Un blodyn saffrwn ar wastatir Saronydw i; dim ond lili fach o'r dyffryn.

2. F'anwylyd, o'i gymharu â merched eraillrwyt ti fel lili yng nghanol mieri.

3. Fy nghariad, o'i gymharu â dynion eraillrwyt ti fel coeden afalauyng nghanol y goedwig.Mae'n hyfryd cael eistedd dan dy gysgod,ac mae dy ffrwyth â'i flas mor felys.

4. Aeth â fi i mewn i'r gwindya'm gorchuddio â'i gariad.

5. Helpwch fi! Adfywiwch figyda ffrwythau melys ac afalau –dw i'n glaf o gariad.

6. Mae ei law chwith dan fy mhen,a'i law dde yn fy anwesu.

7. Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnocho flaen y gasél a'r ewig gwyllt:Peidiwch trïo cyffroi cariad rhywiolnes mae'n barod.

8. Ust! Fy nghariad sydd yna!Edrychwch! Dyma fe'n dod,yn llamu dros y mynyddoeddac yn neidio dros y bryniau

9. fel gasél neu garw ifanc.Mae yma! Yr ochr arall i'r wal!Mae'n edrych drwy'r ffenestac yn sbecian drwy'r ddellt.

10. Mae'n galw arna i:“F'anwylyd, tyrd!Gad i ni fynd, fy un hardd.

Darllenwch bennod gyflawn Caniad Solomon 2