Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 9:9-28 beibl.net 2015 (BNET)

9. Ond atebodd y goeden olewydd,‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu olew,sy'n bendithio Duw a dynion,er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’

10. Felly dyma'r coed yn dweud wrth y goeden ffigys,‘Bydd di yn frenin arnon ni.’

11. Ond atebodd y goeden ffigys,‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu ffigys melys,fy ffrwyth hyfryd,er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’

12. Felly dyma'r coed yn dweud wrth y winwydden,‘Bydd di yn frenin arnon ni.’

13. Ond atebodd y winwydden,‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu gwin,sy'n gwneud duwiau a dynion yn hapus,er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’

14. Felly dyma'r coed yn dweud wrth berth o ddrain,‘Bydd di yn frenin arnon ni.’

15. A dyma'r berth ddrain yn ateb,‘Os ydych chi wir eisiau fi'n frenin,dewch i gysgodi oddi tanaf fi.Os na wnewch chi,bydda i'n cynnau tânfydd yn llosgi coed cedrwydd Libanus.’

16-17. “Roedd fy nhad i wedi ymladd drosoch chi a mentro'i fywyd i'ch achub chi o afael y Midianiaid. Ai dyma sut ydych chi'n diolch iddo? – trwy wneud Abimelech yn frenin! Ydych chi wedi ymddwyn yn anrhydeddus? Ydych chi wedi bod yn deg â Gideon a'i deulu? Naddo!

18. Dych chi wedi ei fradychu. Dych chi wedi lladd ei feibion – saith deg ohonyn nhw – ar un garreg! A dyma chi, yn gwneud Abimelech, mab ei gaethferch, yn frenin, dim ond am ei fod yn perthyn i chi!

19. Os ydych chi wedi trin Gideon a'i deulu yn anrhydeddus, boed i Abimelech eich gwneud chi'n hapus, ac i chi ei wneud e'n hapus.

20. Ond os ddim, boed i Abimelech gynnau tân fydd yn eich llosgi chi arweinwyr Sichem a Beth-milo! A boed i arweinwyr Sichem a Beth-milo gynnau tân fydd yn dinistrio Abimelech!”

21. Yna dyma Jotham yn dianc i dref Beër, i gadw o ffordd Abimelech, ei hanner brawd.

22. Pan oedd Abimelech wedi rheoli Israel am dair blynedd,

23. anfonodd Duw ysbryd i godi helynt rhwng Abimelech ac arweinwyr Sichem. A dyma arweinwyr Sichem yn gwrthryfela yn ei erbyn.

24. Gwnaeth Duw hyn i'w gosbi e ac arweinwyr Sichem am lofruddio meibion Gideon i gyd – saith deg ohonyn nhw!

25. Dyma arweinwyr Sichem yn gosod lladron yn y bryniau, i ymosod ar bawb oedd yn teithio'r ffordd honno. Ond dyma Abimelech yn clywed am y peth.

26. Bryd hynny, dyma Gaal fab Efed yn symud i fyw i Sichem gyda'i berthnasau. A dyma arweinwyr Sichem yn troi ato fe i'w hamddiffyn nhw.

27. Pan oedd hi'n adeg y cynhaeaf grawnwin, roedd pobl Sichem wedi bod yn casglu'r grawnwin, eu sathru i gael y sudd ohonyn nhw, ac yna wedi mynd i deml eu Duw i ddathlu a cynnal parti. Roedden nhw'n rhegi Abimelech wrth fwynhau'r gwledda a'r yfed.

28. “Pwy ydy Abimelech?” meddai Gaal fab Efed. “Pam ddylen ni, bobl Sichem, fod yn weision bach iddo? Mab Gideon ydy e, a Sebwl yn ddirprwy wedi ei benodi ganddo. Un o ddisgynyddion Hamor, tad Sechem, ddylen ni ei wasanaethu. Pam ddylen ni wasanaethu Abimelech?

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 9