Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 9:50-57 beibl.net 2015 (BNET)

50. Wedyn dyma Abimelech yn mynd yn ei flaen i ymosod ar dref Thebes, a'i choncro.

51. Roedd tŵr amddiffynnol yng nghanol y dref. A dyma'r arweinwyr a phawb arall yn rhedeg i'r tŵr a chloi'r drws. Yna dyma nhw'n dringo i ben to'r tŵr.

52. Dyma Abimelech yn ymosod ar y tŵr, ond wrth iddo baratoi i roi'r fynedfa ar dân

53. dyma ryw wraig yn gollwng maen melin ar ei ben a cracio'i benglog.

54. Dyma fe'n galw ar y dyn ifanc oedd yn cario ei arfau, “Tynn dy gleddyf a lladd fi. Dw i ddim eisiau i bobl ddweud fod gwraig wedi fy lladd i.”Felly dyma'r dyn ifanc yn ei drywanu gyda'i gleddyf, a bu farw.

55. Pan sylweddolodd dynion Israel fod Abimelech wedi marw dyma nhw i gyd yn mynd adre.

56. Dyna sut wnaeth Duw gosbi Abimelech am y drwg wnaeth e i deulu ei dad trwy ladd ei saith deg hanner brawd.

57. A dyna sut wnaeth Duw gosbi pobl Sichem hefyd, am y drwg wnaethon nhw. Daeth beth ddwedodd Jotham, mab Gideon, pan felltithiodd nhw, yn wir.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 9