Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 9:39-53 beibl.net 2015 (BNET)

39. Felly dyma Gaal ac arweinwyr Sichem yn mynd allan i ymladd gydag Abimelech.

40. Ond roedd rhaid iddyn nhw ddianc o flaen byddin Abimelech, a chafodd llawer iawn ohonyn nhw eu lladd yr holl ffordd at giât y dref.

41. Yna dyma Abimelech yn mynd yn ôl i Arwma. A dyma Sebwl yn gyrru Gaal a'i berthnasau allan o Sichem.

42. Ond y diwrnod wedyn dyma bobl Sichem yn dod allan eto.Pan glywodd Abimelech am y peth,

43. dyma fe'n rhannu ei fyddin yn dair uned filwrol, a paratoi i ymosod. Ac wrth i'r bobl ddod allan o'r dref, dyma fe'n ymosod arnyn nhw.

44. Aeth Abimelech a'i uned at giât y dref a blocio'r ffordd yn ôl, ac yna dyma'r ddwy uned arall yn taro'r bobl oedd wedi mynd allan i'r caeau, a'u lladd nhw.

45. Aeth y frwydr ymlaen drwy'r dydd. Dyma Abimelech yn concro'r dref a lladd pawb oedd ynddi. Yna dyma fe'n chwalu'r dref a'i hadeiladau i gyd, a gwasgaru halen dros y safle.

46. Pan glywodd arweinwyr Tŵr Sichem beth oedd wedi digwydd, dyma nhw'n mynd i guddio yn siambr danddaearol teml El-berith.

47. Yna dyma Abimelech yn clywed fod arweinwyr Tŵr Sichem gyda'i gilydd yno.

48. Felly dyma fe'n mynd a'i filwyr i ben Mynydd Salmon. Yna torrodd ganghennau oddi ar goeden gyda bwyell, a'u rhoi ar ei ysgwydd. Dwedodd wrth ei filwyr am wneud yr un peth ar unwaith.

49. Dyma nhw'n gwneud hynny, a mynd ar ei ôl. Yna dyma nhw'n gosod y canghennau yn erbyn waliau'r gaer, a'u rhoi ar dân. Cafodd pawb oedd yn byw yn Tŵr Sichem eu lladd – tua mil o ddynion a merched.

50. Wedyn dyma Abimelech yn mynd yn ei flaen i ymosod ar dref Thebes, a'i choncro.

51. Roedd tŵr amddiffynnol yng nghanol y dref. A dyma'r arweinwyr a phawb arall yn rhedeg i'r tŵr a chloi'r drws. Yna dyma nhw'n dringo i ben to'r tŵr.

52. Dyma Abimelech yn ymosod ar y tŵr, ond wrth iddo baratoi i roi'r fynedfa ar dân

53. dyma ryw wraig yn gollwng maen melin ar ei ben a cracio'i benglog.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 9