Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 9:31-48 beibl.net 2015 (BNET)

31. Anfonodd negeswyr at Abimelech, oedd yn Arwma, i ddweud, “Gwylia dy hun! Mae Gaal fab Efed a'i frodyr wedi dod i Sichem i godi twrw a chael y dref i wrthryfela yn dy erbyn di.

32. Tyrd yma gyda dy fyddin dros nos, a disgwyl tu allan i'r dref.

33. Yna wrth iddi wawrio bore yfory, ymosod arni. Pan fydd Gaal a'i ddynion yn dod allan i ymladd, gelli wneud beth fynni iddo.”

34. Felly yn ystod y nos, dyma Abimelech a'i fyddin yn dod i baratoi i ymosod ar Sichem. Rhannodd ei fyddin yn bedair uned filwrol.

35. Y bore wedyn roedd Gaal fab Efed wedi codi a mynd i sefyll tu allan i giât y dref, pan ddaeth Abimelech a'i fyddin i'r golwg.

36. Pan welodd Gaal nhw, dyma fe'n dweud wrth Sebwl, “Edrych, mae yna bobl yn dod i lawr o'r mynyddoedd acw.” Ond dyma Sebwl yn dweud, “Cysgodion wyt ti'n eu gweld – mae'n edrych fel pobl o'r fan yma.”

37. Ond dyma Gaal yn dweud eto, “Edrych eto, mae yna bobl yn dod o Tabbwr-erets, ac mae yna griw yn dod i lawr o gyfeiriad Derwen y Dewiniaid.”

38. Yna dyma Sebwl yn dweud wrtho, “Ble mae'r geg fawr yna nawr? Ti ddwedodd, ‘Pwy ydy Abimelech i ni fod yn weision bach iddo?’ Wel, dyma'r dynion oeddet ti'n eu bychanu, felly dos allan i ymladd gyda nhw!”

39. Felly dyma Gaal ac arweinwyr Sichem yn mynd allan i ymladd gydag Abimelech.

40. Ond roedd rhaid iddyn nhw ddianc o flaen byddin Abimelech, a chafodd llawer iawn ohonyn nhw eu lladd yr holl ffordd at giât y dref.

41. Yna dyma Abimelech yn mynd yn ôl i Arwma. A dyma Sebwl yn gyrru Gaal a'i berthnasau allan o Sichem.

42. Ond y diwrnod wedyn dyma bobl Sichem yn dod allan eto.Pan glywodd Abimelech am y peth,

43. dyma fe'n rhannu ei fyddin yn dair uned filwrol, a paratoi i ymosod. Ac wrth i'r bobl ddod allan o'r dref, dyma fe'n ymosod arnyn nhw.

44. Aeth Abimelech a'i uned at giât y dref a blocio'r ffordd yn ôl, ac yna dyma'r ddwy uned arall yn taro'r bobl oedd wedi mynd allan i'r caeau, a'u lladd nhw.

45. Aeth y frwydr ymlaen drwy'r dydd. Dyma Abimelech yn concro'r dref a lladd pawb oedd ynddi. Yna dyma fe'n chwalu'r dref a'i hadeiladau i gyd, a gwasgaru halen dros y safle.

46. Pan glywodd arweinwyr Tŵr Sichem beth oedd wedi digwydd, dyma nhw'n mynd i guddio yn siambr danddaearol teml El-berith.

47. Yna dyma Abimelech yn clywed fod arweinwyr Tŵr Sichem gyda'i gilydd yno.

48. Felly dyma fe'n mynd a'i filwyr i ben Mynydd Salmon. Yna torrodd ganghennau oddi ar goeden gyda bwyell, a'u rhoi ar ei ysgwydd. Dwedodd wrth ei filwyr am wneud yr un peth ar unwaith.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 9