Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 9:19-34 beibl.net 2015 (BNET)

19. Os ydych chi wedi trin Gideon a'i deulu yn anrhydeddus, boed i Abimelech eich gwneud chi'n hapus, ac i chi ei wneud e'n hapus.

20. Ond os ddim, boed i Abimelech gynnau tân fydd yn eich llosgi chi arweinwyr Sichem a Beth-milo! A boed i arweinwyr Sichem a Beth-milo gynnau tân fydd yn dinistrio Abimelech!”

21. Yna dyma Jotham yn dianc i dref Beër, i gadw o ffordd Abimelech, ei hanner brawd.

22. Pan oedd Abimelech wedi rheoli Israel am dair blynedd,

23. anfonodd Duw ysbryd i godi helynt rhwng Abimelech ac arweinwyr Sichem. A dyma arweinwyr Sichem yn gwrthryfela yn ei erbyn.

24. Gwnaeth Duw hyn i'w gosbi e ac arweinwyr Sichem am lofruddio meibion Gideon i gyd – saith deg ohonyn nhw!

25. Dyma arweinwyr Sichem yn gosod lladron yn y bryniau, i ymosod ar bawb oedd yn teithio'r ffordd honno. Ond dyma Abimelech yn clywed am y peth.

26. Bryd hynny, dyma Gaal fab Efed yn symud i fyw i Sichem gyda'i berthnasau. A dyma arweinwyr Sichem yn troi ato fe i'w hamddiffyn nhw.

27. Pan oedd hi'n adeg y cynhaeaf grawnwin, roedd pobl Sichem wedi bod yn casglu'r grawnwin, eu sathru i gael y sudd ohonyn nhw, ac yna wedi mynd i deml eu Duw i ddathlu a cynnal parti. Roedden nhw'n rhegi Abimelech wrth fwynhau'r gwledda a'r yfed.

28. “Pwy ydy Abimelech?” meddai Gaal fab Efed. “Pam ddylen ni, bobl Sichem, fod yn weision bach iddo? Mab Gideon ydy e, a Sebwl yn ddirprwy wedi ei benodi ganddo. Un o ddisgynyddion Hamor, tad Sechem, ddylen ni ei wasanaethu. Pam ddylen ni wasanaethu Abimelech?

29. Petawn i'n rheoli pobl Sichem, byddwn i'n cael gwared ag Abimelech! Byddwn i'n dweud wrtho, ‘Gwell i ti gael byddin fwy os wyt ti am ddod allan yn ein herbyn ni!’”

30. Pan glywodd Sebwl, llywodraethwr Sichem, beth oedd Gaal wedi ei ddweud, roedd yn wyllt gynddeiriog.

31. Anfonodd negeswyr at Abimelech, oedd yn Arwma, i ddweud, “Gwylia dy hun! Mae Gaal fab Efed a'i frodyr wedi dod i Sichem i godi twrw a chael y dref i wrthryfela yn dy erbyn di.

32. Tyrd yma gyda dy fyddin dros nos, a disgwyl tu allan i'r dref.

33. Yna wrth iddi wawrio bore yfory, ymosod arni. Pan fydd Gaal a'i ddynion yn dod allan i ymladd, gelli wneud beth fynni iddo.”

34. Felly yn ystod y nos, dyma Abimelech a'i fyddin yn dod i baratoi i ymosod ar Sichem. Rhannodd ei fyddin yn bedair uned filwrol.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 9