Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 9:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Abimelech, mab Jerwb-baal (sef Gideon), yn mynd i Sichem i weld ei berthnasau. Dwedodd wrthyn nhw, ac wrth bobl y clan i gyd,

2. “Gofynnwch i arweinwyr Sichem, ‘Ydych chi eisiau saith deg o feibion Jerwb-baal yn llywodraethu arnoch chi, neu dim ond un dyn? Cofiwch mod i'n perthyn yn agos i chi.’”

3. Felly dyma'i berthnasau yn mynd i weld arweinwyr Sichem ar ei ran. Roedden nhw'n tueddu i'w gefnogi, am ei fod yn perthyn yn agos iddyn nhw.

4. Dyma nhw'n rhoi saith deg darn arian iddo o deml Baal-berith. A dyma Abimelech yn defnyddio'r arian i gyflogi criw o rapsgaliwns gwyllt i'w ddilyn.

5. Dyma fe'n mynd i gartref ei dad yn Offra, a lladd ei frodyr, sef saith deg mab Gideon, ar yr un garreg. Dim ond Jotham, mab ifancaf Gideon, lwyddodd i ddianc drwy guddio.

6. Yna dyma arweinwyr Sichem a Beth-milo yn dod at ei gilydd at y dderwen sydd wrth y golofn yn Sichem, i wneud Abimelech yn frenin.

7. Pan glywodd Jotham am hyn dyma fe'n dringo i gopa Mynydd Gerisim. A dyma fe'n gweiddi'n uchel ar y bobl islaw,“Gwrandwch arna i, arweinwyr Sichem –os ydych chi eisiau i Dduw wrando arnoch chi.

8. Aeth y coed allan i ddewis brenin.A dyma nhw'n dweud wrth y goeden olewydd,‘Bydd yn frenin arnon ni.’

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 9