Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 8:7-16 beibl.net 2015 (BNET)

7. Ac meddai Gideon, “Iawn, os mai felly mae hi, pan fydd yr ARGLWYDD wedi fy helpu i'w dal nhw, bydda i'n gwneud i chi ddiodde go iawn pan ddof i yn ôl.”

8. Dyma fe'n mynd ymlaen wedyn a gofyn i arweinwyr Penuel am fwyd. Ond dyma nhw'n ymateb yr un fath ag arweinwyr Swccoth.

9. Felly dyma Gideon yn eu bygwth nhw hefyd, a dweud, “Pan ddof i yn ôl ar ôl trechu Midian, bydda i'n bwrw eich tŵr chi i lawr!”

10. Roedd Seba a Tsalmwna wedi cyrraedd Carcor, gyda tua un deg pum mil o filwyr oedd wedi llwyddo i ddianc. (Roedd cant dau ddeg o filoedd wedi cael eu lladd!)

11. Dyma Gideon a'i ddynion yn mynd ar hyd ffordd y nomadiaid sydd i'r dwyrain o Nobach a Iogbeha, ac yna ymosod ar fyddin Midian yn gwbl ddirybudd.

12. Dyma fyddin Midian yn panicio. Ceisiodd Seba a Tsalmwna ddianc ond aeth Gideon ar eu holau a llwyddo i'w dal nhw.

13. Pan oedd y frwydr drosodd dyma Gideon yn mynd yn ôl drwy Fwlch Cheres.

14. Yno dyma fe'n dal dyn ifanc o Swccoth a dechrau gofyn cwestiynau iddo. Dyma'r dyn ifanc yn ysgrifennu enwau swyddogion ac arweinwyr y dref i gyd iddo – saith deg saith o ddynion i gyd.

15. Yna dyma Gideon yn mynd at arweinwyr Swccoth, a dweud, “Edrychwch pwy sydd gen i. Seba a Tsalmwna! Roeddech chi'n gwawdio a dweud, ‘Wnewch chi byth lwyddo i ddal Seba a Tsalmwna. Pam ddylen ni roi bwyd i dy filwyr blinedig di?’”

16. Felly dyma fe'n dal arweinwyr y dref, a'u chwipio nhw'n filain i ddysgu gwers iddyn nhw.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 8