Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 8:2-13 beibl.net 2015 (BNET)

2. Dyma Gideon yn dweud, “Dw i wedi gwneud dim o'i gymharu â chi. Mae grawnwin gwaelaf Effraim yn well na gorau fy mhobl i.

3. Chi wnaeth Duw eu defnyddio i ddal Oreb a Seeb, dau gadfridog Midian. Dydy beth wnes i yn ddim o'i gymharu â hynny.” Pan ddwedodd hynny roedden nhw'n teimlo'n well tuag ato.

4. Roedd Gideon a'i dri chant o ddynion wedi croesi'r Afon Iorddonen ac yn dal i fynd ar ôl y Midianiaid, er eu bod nhw wedi blino'n lân.

5. Dyma nhw'n cyrraedd Swccoth, a dyma Gideon yn gofyn i arweinwyr y dref, “Mae'r dynion yma sydd gyda mi wedi ymlâdd. Wnewch chi roi bwyd iddyn nhw? Dŷn ni'n ceisio dal Seba a Tsalmwna, brenhinoedd Midian.”

6. Ond dyma arweinwyr Swccoth yn ateb, “Pam ddylen ni roi bwyd i chi? Wnewch chi byth lwyddo i ddal Seba a Tsalmwna!”

7. Ac meddai Gideon, “Iawn, os mai felly mae hi, pan fydd yr ARGLWYDD wedi fy helpu i'w dal nhw, bydda i'n gwneud i chi ddiodde go iawn pan ddof i yn ôl.”

8. Dyma fe'n mynd ymlaen wedyn a gofyn i arweinwyr Penuel am fwyd. Ond dyma nhw'n ymateb yr un fath ag arweinwyr Swccoth.

9. Felly dyma Gideon yn eu bygwth nhw hefyd, a dweud, “Pan ddof i yn ôl ar ôl trechu Midian, bydda i'n bwrw eich tŵr chi i lawr!”

10. Roedd Seba a Tsalmwna wedi cyrraedd Carcor, gyda tua un deg pum mil o filwyr oedd wedi llwyddo i ddianc. (Roedd cant dau ddeg o filoedd wedi cael eu lladd!)

11. Dyma Gideon a'i ddynion yn mynd ar hyd ffordd y nomadiaid sydd i'r dwyrain o Nobach a Iogbeha, ac yna ymosod ar fyddin Midian yn gwbl ddirybudd.

12. Dyma fyddin Midian yn panicio. Ceisiodd Seba a Tsalmwna ddianc ond aeth Gideon ar eu holau a llwyddo i'w dal nhw.

13. Pan oedd y frwydr drosodd dyma Gideon yn mynd yn ôl drwy Fwlch Cheres.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 8