Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 7:10-18 beibl.net 2015 (BNET)

10. Os wyt ti'n dal yn ofnus, dos i lawr i'r gwersyll gyda dy was Pwra,

11. a gwrando beth maen nhw'n ddweud. Fydd gen ti ddim ofn wedyn; byddi'n ymosod arnyn nhw.”Felly dyma Gideon yn mynd i lawr gyda'i was Pwra i ymyl y gwersyll lle roedd gwylwyr.

12. Roedd y gwersyll yn anferth! Roedd y Midianiaid, yr Amaleciaid, a'r bobloedd eraill o wledydd y dwyrain yn gorchuddio'r dyffryn fel haid o locustiaid! Roedd ganddyn nhw ormod o gamelod i'w cyfrif – roedden nhw fel y tywod ar lan y môr!

13. Ond pan gyrhaeddodd Gideon ymyl y gwersyll dyma fe'n clywed rhyw ddyn yn dweud wrth ddyn arall am freuddwyd gafodd e. “Ces i freuddwyd am dorth haidd gron yn rholio i lawr i wersyll Midian. Dyma hi'n taro'r babell mor galed nes i'r babell droi drosodd. Syrthiodd yn fflat ar lawr.”

14. Dyma'r llall yn dweud, “Dim ond un peth mae hyn ei olygu – cleddyf Gideon, mab Joas. Mae Duw yn mynd i roi buddugoliaeth iddo dros fyddin Midian.”

15. Dyma Gideon yn plygu i lawr ac addoli Duw ar ôl clywed am y freuddwyd a'r dehongliad ohoni. Yna dyma fe'n mynd yn ôl i wersyll Israel, a dweud, “Gadewch i ni fynd! Mae'r ARGLWYDD yn mynd i adael i chi drechu byddin Midian.”

16. Dyma Gideon yn rhannu'r tri chant o ddynion yn dair uned filwrol. Yna rhoddodd gorn hwrdd i bawb, a jar gwag gyda fflam yn llosgi tu mewn iddo.

17. “Gwyliwch fi, a gwneud yr un fath â fi,” meddai wrthyn nhw. “Gwyliwch yn ofalus. Pan ddown ni at gyrion gwersyll y Midianiaid, gwnewch yr un fath â fi.

18. Pan fydd fy uned i yn chwythu eu cyrn hwrdd gwnewch chwithau yr un fath o gwmpas y gwersyll i gyd. Yna gweiddi, ‘Dros yr ARGLWYDD a dros Gideon!’”

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 7