Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 7:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. Y bore wedyn dyma Gideon a'i fyddin yn mynd allan a gwersylla wrth Ffynnon Charod. Roedd byddin Midian wedi gwersylla yn y dyffryn ychydig i'r gogledd, wrth ymyl Bryn More.

2. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Mae gormod o ddynion yn dy fyddin di. Os gwna i adael i chi guro Midian mae peryg i bobl Israel frolio mai nhw eu hunain wnaeth ennill y frwydr.

3. Dywed wrth y dynion, ‘Os oes rhywun ag ofn, cewch droi'n ôl a gadael Mynydd Gilead.’” Aeth dau ddeg dau o filoedd adre gan adael deg mil ar ôl.

4. Yna dyma'r ARGLWYDD yn siarad â Gideon eto. “Mae'r fyddin yn dal yn rhy fawr. Dos â nhw i lawr at y dŵr, a gwna i ddangos i ti pwy sydd i gael mynd a pwy sydd ddim.”

5. Felly dyma fe'n mynd â'r dynion i lawr at y dŵr. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Dw i eisiau i ti wahanu'r rhai sy'n llepian y dŵr fel mae ci'n gwneud oddi wrth y rhai sy'n mynd ar eu gliniau i yfed.”

6. Tri chant oedd yn llepian y dŵr o gledr y llaw. Roedd y gweddill yn mynd ar eu gliniau i yfed.

7. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Bydda i'n gwneud i'r tri chant oedd yn llepian y dŵr ennill buddugoliaeth yn erbyn byddin Midian i gyd. Cei yrru'r dynion eraill i gyd adre.”

8. Dyma Gideon yn casglu bwyd a chyrn hwrdd y milwyr hynny, ac yna eu hanfon adre. Dim ond y tri chant arhosodd gydag e.Roedd y Midianiaid wedi gwersylla i lawr yn y dyffryn oddi tano.

9. A'r noson honno, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Ewch i lawr i ymosod ar wersyll y Midianiaid. Dw i'n mynd i'w rhoi yn eich dwylo chi!

10. Os wyt ti'n dal yn ofnus, dos i lawr i'r gwersyll gyda dy was Pwra,

11. a gwrando beth maen nhw'n ddweud. Fydd gen ti ddim ofn wedyn; byddi'n ymosod arnyn nhw.”Felly dyma Gideon yn mynd i lawr gyda'i was Pwra i ymyl y gwersyll lle roedd gwylwyr.

12. Roedd y gwersyll yn anferth! Roedd y Midianiaid, yr Amaleciaid, a'r bobloedd eraill o wledydd y dwyrain yn gorchuddio'r dyffryn fel haid o locustiaid! Roedd ganddyn nhw ormod o gamelod i'w cyfrif – roedden nhw fel y tywod ar lan y môr!

13. Ond pan gyrhaeddodd Gideon ymyl y gwersyll dyma fe'n clywed rhyw ddyn yn dweud wrth ddyn arall am freuddwyd gafodd e. “Ces i freuddwyd am dorth haidd gron yn rholio i lawr i wersyll Midian. Dyma hi'n taro'r babell mor galed nes i'r babell droi drosodd. Syrthiodd yn fflat ar lawr.”

14. Dyma'r llall yn dweud, “Dim ond un peth mae hyn ei olygu – cleddyf Gideon, mab Joas. Mae Duw yn mynd i roi buddugoliaeth iddo dros fyddin Midian.”

15. Dyma Gideon yn plygu i lawr ac addoli Duw ar ôl clywed am y freuddwyd a'r dehongliad ohoni. Yna dyma fe'n mynd yn ôl i wersyll Israel, a dweud, “Gadewch i ni fynd! Mae'r ARGLWYDD yn mynd i adael i chi drechu byddin Midian.”

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 7