Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 6:7-8-16 beibl.net 2015 (BNET)

7-8. Pan ddigwyddodd hynny dyma'r ARGLWYDD yn anfon proffwyd atyn nhw gyda neges gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn dweud: “Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft, a'ch rhyddhau o fod yn gaethweision.

9. Gwnes i'ch achub chi o'u gafael nhw, ac o afael pawb arall oedd yn eich gormesu chi. Dyma fi'n eu gyrru nhw allan o'ch blaen chi, ac yn rhoi eu tir nhw i chi.

10. A dyma fi'n dweud wrthoch chi, ‘Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Peidiwch addoli duwiau'r Amoriaid dych chi'n byw yn eu tir nhw!’ Ond dych chi ddim wedi gwrando arna i.”

11. Dyma angel yr ARGLWYDD yn dod ac yn eistedd dan y goeden dderwen oedd ar dir Joas yr Abiesriad yn Offra. Roedd Gideon, ei fab, yno yn dyrnu ŷd mewn cafn gwasgu grawnwin, i'w guddio oddi wrth y Midianiaid.

12. Dyma fe'n gweld yr angel, a dyma'r angel yn dweud wrtho, “Mae'r ARGLWYDD gyda ti, filwr dewr.”

13. “Beth, syr?” meddai Gideon. “Os ydy'r ARGLWYDD gyda ni, pam mae pethau mor ddrwg arnon ni? Pam nad ydy e'n gwneud gwyrthiau rhyfeddol fel y rhai soniodd ein hynafiaid amdanyn nhw? ‘Daeth yr ARGLWYDD â ni allan o'r Aifft!’ – dyna roedden nhw'n ei ddweud. Ond bellach mae'r ARGLWYDD wedi troi ei gefn arnon ni, a gadael i'r Midianiaid ein rheoli.”

14. Ond yna, dyma'r ARGLWYDD ei hun yn dweud wrth Gideon, “Rwyt ti'n gryf. Dos, i achub Israel o afael y Midianiaid. Fi sy'n dy anfon di.”

15. Dyma Gideon yn dweud, “Ond meistr, sut alla i achub Israel? Dw i'n dod o'r clan lleiaf pwysig yn llwyth Manasse, a fi ydy mab ifancaf y teulu!”

16. A dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Ie, ond bydda i gyda ti. Byddi di'n taro'r Midianiaid i gyd ar unwaith!”

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 6