Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 6:24-37 beibl.net 2015 (BNET)

24. Felly dyma Gideon yn adeiladu allor yno i'r ARGLWYDD, a rhoi'r enw “Heddwch yr ARGLWYDD” arni. (Mae'n dal yna heddiw, yn Offra yr Abiesriaid.)

25. Y noson honno, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Cymer y tarw gorau ond un sydd gan dy dad, yr un saith mlwydd oed. Yna dos a chwalu'r allor sydd gan dy dad i Baal, a torri'r polyn Ashera sydd wrth ei ymyl.

26. Yna dw i eisiau i ti adeiladu allor i'r ARGLWYDD dy Dduw ar ben y bryn yma a gosod y cerrig mewn trefn. Defnyddia bolyn y dduwies Ashera wnest ti ei dorri i lawr fel coed tân i aberthu'r tarw yn offrwm i'w losgi'n llwyr.”

27. Felly dyma Gideon yn mynd â deg o weision a gwneud fel y dwedodd yr ARGLWYDD. Ond arhosodd tan ganol nos, am fod ganddo ofn aelodau eraill y teulu a phobl y dref.

28. Y bore wedyn, pan oedd pawb wedi codi, cawson nhw sioc o weld allor Baal wedi ei dryllio a polyn y dduwies Ashera wedi ei dorri i lawr. Dyma nhw hefyd yn gweld yr allor newydd oedd wedi ei chodi, gydag olion y tarw oedd wedi ei aberthu arni.

29. “Pwy sydd wedi gwneud hyn?” medden nhw. Dyma nhw'n holi'n fanwl a darganfod yn y diwedd mai Gideon, mab Joas, oedd wedi gwneud y peth.

30. Dyma'r dynion yn mynd at Joas. “Tyrd a dy fab allan yma,” medden nhw. “Fe sydd wedi dinistrio allor Baal, ac wedi torri polyn y dduwies Ashera i lawr. Rhaid iddo farw!”

31. Ond dyma Joas yn dweud wrth y dyrfa oedd yn ei fygwth, “Ydy Baal angen i chi ymladd ei frwydrau? Ydych chi'n mynd i'w achub e? Bydd unrhyw un sy'n ymladd drosto wedi marw erbyn y bore. Os ydy Baal yn dduw go iawn, gadewch iddo ymladd ei frwydrau ei hun pan mae rhywun yn dinistrio ei allor!”

32. Y diwrnod hwnnw dechreuodd ei dad alw Gideon yn Jerwb-baal, ar ôl dweud, “Gadewch i Baal ymladd gydag e, os gwnaeth e chwalu allor Baal.”

33. Dyma'r Midianiaid, yr Amaleciaid a phobloedd eraill o'r dwyrain yn dod at ei gilydd ac yn croesi'r Afon Iorddonen a gwersylla yn Nyffryn Jesreel.

34. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Gideon. Dyma fe'n chwythu'r corn hwrdd a galw byddin o ddynion o glan Abieser i'w ddilyn.

35. Yna anfonodd negeswyr drwy diroedd llwythau Manasse, Asher, Sabulon, a Nafftali i alw mwy o ddynion, a dyma nhw i gyd yn dod at ei gilydd i wynebu'r gelynion.

36. Yna dyma Gideon yn dweud wrth Dduw, “Os wyt ti'n mynd i'm defnyddio i i achub Israel, fel ti wedi addo, rho arwydd i mi i ddangos fod hynny'n wir.

37. Dw i'n mynd i roi swp o wlân allan ar y llawr dyrnu heno. Os bydd gwlith ar y gwlân yn unig a'r ddaear o'i gwmpas yn sych, bydda i'n gwybod yn bendant wedyn dy fod ti'n mynd i achub Israel trwof fi, fel ti wedi addo.”

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 6