Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 3:1-18 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd yr ARGLWYDD wedi gadael y bobloedd yna er mwyn profi pobl Israel (sef y genhedlaeth oedd ddim wedi gorfod brwydro yn erbyn y Canaaneaid eu hunain.)

2. Roedd e eisiau i bob cenhedlaeth oedd yn codi yn Israel ddysgu sut i ymladd.

3. Dyma'r bobloedd oedd ar ôl: Y Philistiaid a'u pum arweinydd, y Canaaneaid i gyd, y Sidoniaid a'r Hefiaid oedd yn byw yn mynydd-dir Libanus (o Fynydd Baal-hermon i Fwlch Chamath).

4. Cafodd y rhain eu gadael i brofi pobl Israel, er mwyn gweld fyddai'r bobl yn ufudd i'r gorchmynion roedd e wedi eu rhoi i'w hynafiaid drwy Moses.

5. Roedd pobl Israel wedi setlo i lawr yng nghanol y Canaaneaid, yr Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a'r Jebwsiaid.

6. Roedden nhw'n priodi eu merched, ac yn rhoi eu merched eu hunain i'r Canaaneaid. Ac roedden nhw'n addoli eu duwiau nhw hefyd.

7. Dyma bobl Israel yn gwneud rhywbeth roedd yr ARGLWYDD yn ei ystyried yn wirioneddol ddrwg. Dyma nhw'n anghofio'r ARGLWYDD eu Duw ac addoli delwau o Baal a pholion y dduwies Ashera.

8. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel! Dyma fe'n gadael i Cwshan-rishathaim, brenin Mesopotamia, eu rheoli nhw. Roedden nhw'n gaethion i Cwshan-rishathaim am wyth mlynedd.

9. Dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help, a dyma fe'n codi rhywun i'w hachub nhw – Othniel, mab Cenas (brawd iau Caleb).

10. Dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno, a dyma fe'n arwain Israel i frwydro yn erbyn Cwshan-rishathaim. A dyma Othniel yn ennill y frwydr.

11. Ar ôl hynny roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg mlynedd, nes i Othniel, mab Cenas, farw.

12. Dyma bobl Israel unwaith eto yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Felly, o achos hyn, dyma'r ARGLWYDD yn gadael i Eglon, brenin Moab, reoli Israel.

13. Roedd Eglon wedi ffurfio cynghrair milwrol gyda'r Ammoniaid a'r Amaleciaid i ymosod ar Israel. Dyma nhw'n ennill y frwydr ac yn dal Jericho

14. Buodd pobl Israel yn gaethion i'r brenin Eglon am un deg wyth mlynedd.

15. Dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help, a dyma fe'n codi rhywun i'w hachub nhw. Ei enw oedd Ehwd, mab Gera o lwyth Benjamin. Roedd yn ddyn llaw chwith.Roedd Ehwd i fod i fynd â trethi pobl Israel i Eglon, brenin Moab.

16. Ond cyn mynd dyma Ehwd yn gwneud cleddyf iddo'i hun. Roedd y cleddyf tua 45 centimetr o hyd, gyda min ar ddwy ochr y llafn. Dyma fe'n strapio'r cleddyf ar ei ochr dde o dan ei ddillad.

17. Yna dyma fe'n mynd â'r arian trethi i Eglon. Roedd Eglon yn ddyn tew iawn.

18. Ar ôl cyflwyno'r trethi i'r brenin, dyma Ehwd a'r dynion oedd wedi cario'r arian yn troi am adre.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 3