Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 20:30-42 beibl.net 2015 (BNET)

30. Y diwrnod wedyn dyma fyddin Israel yn mynd allan i ymosod ar lwyth Benjamin eto. Dyma nhw'n mynd ac yn sefyll mewn trefn fel o'r blaen, yn barod i ymosod ar Gibea.

31. A dyma fyddin Benjamin yn dod allan i ymladd eto, gan adael y dref heb ei hamddiffyn. Dyma nhw'n dechrau taro byddin Israel, fel o'r blaen. Cafodd tua tri deg o filwyr Israel eu lladd yng nghefn gwlad ac ar y ffyrdd (sef y ffordd sy'n mynd i Bethel, a'r un sy'n mynd i Gibea).

32. Roedd byddin Benjamin yn meddwl eu bod nhw'n eu curo nhw fel o'r blaen. Ond tacteg Israel oedd ffoi o'u blaenau nhw er mwyn eu harwain nhw i ffwrdd o dref Gibea i'r priffyrdd.

33. Tra roedd byddin Israel i gyd yn mynd i Baal-tamar i ailgasglu at ei gilydd, dyma'r milwyr oedd yn cuddio i'r gorllewin o Gibea yn dod allan

34. ac yn ymosod ar y dref – deg mil o filwyr profiadol i gyd. Roedd y brwydro yn filain, a doedd gan filwyr Benjamin ddim syniad eu bod nhw ar fin cael crasfa.

35. Dyma'r ARGLWYDD yn taro byddin Benjamin i lawr o flaen milwyr Israel. Cafodd dau ddeg pum mil a chant o filwyr Benjamin eu lladd.

36. Roedd byddin Benjamin yn gweld ei bod ar ben arnyn nhw!Roedd byddin Israel wedi ffoi o flaen milwyr llwyth Benjamin, gan wybod fod ganddyn nhw ddynion yn cuddio ac yn barod i ymosod ar Gibea.

37. Ac roedd y dynion hynny wedi rhuthro i ymosod ar Gibea, a lladd pawb oedd yn byw yno.

38. Roedden nhw wedi trefnu i roi arwydd i weddill y fyddin eu bod nhw wedi llwyddo. Bydden nhw'n cynnau tân a gwneud i golofn o fwg godi o'r dref.

39. A dyna pryd fyddai byddin Israel yn troi a dechrau gwrthymosod.Roedd milwyr Benjamin eisoes wedi lladd rhyw dri deg o filwyr Israel ac yn meddwl eu bod nhw'n ennill y frwydr fel o'r blaen.

40. Ond yna dyma nhw'n gweld colofn o fwg yn codi o'r dref. Roedd y dref i gyd ar dân, a mwg yn codi'n uchel i'r awyr.

41. Pan drodd byddin Israel i ymladd, dyma filwyr llwyth Benjamin yn panicio – roedden nhw'n gweld ei bod hi ar ben arnyn nhw.

42. Dyma nhw'n ffoi o flaen byddin Israel, ar hyd y ffordd i'r anialwch. Ond roedden nhw'n methu dianc. Roedd milwyr Israel yn eu taro nhw o bob cyfeiriad.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 20