Ond doedden nhw ddim yn gwrando ar eu harweinwyr. Roedden nhw'n puteinio drwy roi eu hunain i dduwiau eraill a'u haddoli nhw. Roedden nhw'n rhy barod i grwydro oddi ar y llwybr roedd eu hynafiaid wedi ei ddilyn. Roedd eu hynafiaid wedi bod yn ufudd i orchmynion yr ARGLWYDD, ond doedden nhw ddim.