Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 19:7-20 beibl.net 2015 (BNET)

7. Roedd y dyn yn barod i fynd, ond dyma'r tad yn pwyso arno a'i berswadio i aros noson arall.

8. Yna'n gynnar y bore wedyn, y pumed diwrnod, dyma'r dyn yn codi eto i fynd. Ond dyma dad y ferch yn dweud wrtho eto, “Rhaid i ti gael rhywbeth i dy gadw di i fynd! Pam wnei di ddim gadael ar ôl cinio?”Felly dyma'r ddau yn bwyta gyda'i gilydd eto.

9. Rywbryd yn y p'nawn, dyma'r dyn yn codi i fynd gyda'i bartner a'i was. Ond dyma tad y ferch, yn dweud, “Gwranda, mae'n rhy hwyr yn y dydd. Aros un noson arall! Mae hi wedi mynd yn rhy hwyr i ti fynd bellach. Aros un noson arall i fwynhau dy hun. Wedyn cei godi'n gynnar bore fory a cychwyn ar dy daith am adre.”

10. Ond doedd y dyn ddim am aros noson arall. Dyma fe a'i bartner yn cymryd y ddau asyn oedd wedi eu cyfrwyo, ac yn cychwyn ar y daith. Dyma nhw'n cyrraedd Jebws (sef, Jerwsalem).

11. Erbyn hynny roedd hi'n dechrau nosi, a dyma'r gwas yn gofyn i'w feistr, “Beth am i ni aros yma dros nos, yn nhref y Jebwsiaid?”

12. Dyma'r meistr yn ei ateb, “Na, allwn ni ddim aros gyda paganiaid sydd ddim yn perthyn i Israel. Awn ni ymlaen i Gibea.

13. Gallwn ni ddod o hyd i rywle i aros, naill ai yn Gibea neu yn Rama.”

14. Felly dyma nhw'n teithio yn eu blaenau.Pan gyrhaeddon nhw Gibea, sydd ar dir llwyth Benjamin, roedd yr haul wedi machlud.

15. Felly dyma nhw'n penderfynu aros dros nos yno. Dyma nhw'n mynd i mewn i'r dref, ac eistedd i lawr i orffwys ar y sgwâr. Ond wnaeth neb eu gwahodd nhw i'w tŷ i aros dros nos.

16. Ond yna, dyma ryw hen ddyn yn dod heibio. Roedd wedi bod yn gweithio yn y caeau drwy'r dydd ac ar ei ffordd adre. Roedd yn dod o fryniau Effraim yn wreiddiol, ond yn byw yn Gibea gyda phobl llwyth Benjamin.

17. Pan welodd e'r teithiwr yn y sgwâr, dyma fe'n gofyn iddo, “O ble dych chi'n dod, ac i ble dych chi'n mynd?”

18. A dyma'r dyn o lwyth Lefi yn dweud wrtho, “Dŷn ni ar ein ffordd adre o Bethlehem yn Jwda. Dw i'n byw mewn ardal ym mryniau Effraim sy'n bell o bobman. Dw i wedi bod i Bethlehem, a nawr dw i ar fy ffordd i Dabernacl yr ARGLWYDD. Ond does neb yn y dref yma wedi'n gwahodd ni i aros gyda nhw.

19. Does gynnon ni angen dim byd. Mae gynnon ni ddigon o wellt a grawn i'n mulod, ac mae gynnon ni fwyd a gwin i'r tri ohonon ni – fi, dy forwyn, a'r bachgen ifanc sydd gyda ni.”

20. “Mae croeso i chi ddod ata i!” meddai'r hen ddyn. “Gwna i ofalu amdanoch chi. Well i chi beidio aros ar sgwâr y dref drwy'r nos!”

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 19