Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 19:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Roedd rhyw ddyn o lwyth Lefi yn byw yn bell o bobman yng nghanol bryniau Effraim. A dyma fe'n cymryd dynes o Bethlehem yn Jwda i fyw gydag e fel ei bartner

2. Ond roedd hi'n anffyddlon iddo, a dyma hi'n mynd yn ôl i fyw gyda'i theulu yn Bethlehem.Rhyw bedwar mis wedyn,

3. dyma'r dyn yn mynd gyda'i was a dau asyn i geisio'i pherswadio i fynd yn ôl gydag e. Pan gyrhaeddodd, dyma hi'n mynd ag e i'w chartref, a dyma ei thad yn rhoi croeso brwd iddo.

4. Dyma'r tad yn ei berswadio i aros am dri diwrnod, a dyna lle buodd e, yn bwyta ac yn yfed ac yn aros dros nos.

5. Ond yna, ar y pedwerydd diwrnod, dyma fe'n codi'n gynnar a dechrau paratoi i adael. Dyma dad y ferch yn dweud wrtho, “Rhaid i ti gael tamaid i'w fwyta cyn mynd. Cewch fynd wedyn.”

6. Felly dyma'r ddau ohonyn nhw'n cael pryd o fwyd gyda'i gilydd. A dyma dad y ferch yn dweud wrth y dyn, “Tyrd, aros un noson arall. Cei di amser da!”

7. Roedd y dyn yn barod i fynd, ond dyma'r tad yn pwyso arno a'i berswadio i aros noson arall.

8. Yna'n gynnar y bore wedyn, y pumed diwrnod, dyma'r dyn yn codi eto i fynd. Ond dyma dad y ferch yn dweud wrtho eto, “Rhaid i ti gael rhywbeth i dy gadw di i fynd! Pam wnei di ddim gadael ar ôl cinio?”Felly dyma'r ddau yn bwyta gyda'i gilydd eto.

9. Rywbryd yn y p'nawn, dyma'r dyn yn codi i fynd gyda'i bartner a'i was. Ond dyma tad y ferch, yn dweud, “Gwranda, mae'n rhy hwyr yn y dydd. Aros un noson arall! Mae hi wedi mynd yn rhy hwyr i ti fynd bellach. Aros un noson arall i fwynhau dy hun. Wedyn cei godi'n gynnar bore fory a cychwyn ar dy daith am adre.”

10. Ond doedd y dyn ddim am aros noson arall. Dyma fe a'i bartner yn cymryd y ddau asyn oedd wedi eu cyfrwyo, ac yn cychwyn ar y daith. Dyma nhw'n cyrraedd Jebws (sef, Jerwsalem).

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 19