Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 18:7-15 beibl.net 2015 (BNET)

7. Felly dyma'r pump yn mynd ymlaen ar eu taith ac yn dod i Laish. Doedd y bobl oedd yn byw yno yn poeni am ddim – roedden nhw fel pobl Sidon, yn meddwl eu bod nhw'n hollol saff. Doedden nhw'n gweld dim perygl o gwbl a doedd neb yn eu bygwth nhw na dwyn oddi arnyn nhw. Roedden nhw'n bell oddi wrth Sidon i'r gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw un arall chwaith.

8. Dyma'r dynion yn mynd yn ôl at eu pobl i Sora ac Eshtaol. A dyma'r bobl yn gofyn iddyn nhw, “Wel? Sut aeth hi?”

9. A dyma nhw'n ateb, “Dewch! Dŷn ni wedi dod o hyd i le da. Dewch i ymosod arnyn nhw! Peidiwch eistedd yma'n diogi! Rhaid i ni fynd ar unwaith a chymryd y tir oddi arnyn nhw.

10. Maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n hollol saff. Mae yna ddigon o dir yna, ac mae Duw yn ei roi i ni! Mae popeth sydd ei angen arnon ni yna!”

11. Felly dyma chwe chant o ddynion Dan yn gadael Sora ac Eshtaol, yn barod i frwydro.

12. Dyma nhw'n gwersylla yn Ciriath-iearim yn Jwda. (Mae'r lle yn dal i gael ei alw yn Wersyll Dan hyd heddiw. Mae i'r gorllewin o Ciriath-iearim.)

13. Yna dyma nhw'n mynd yn eu blaenau i fryniau Effraim a chyrraedd tŷ Micha.

14. A dyma'r pum dyn oedd wedi bod yn chwilio'r ardal yn dweud wrth y lleill, “Wyddoch chi fod yna effod ac eilun-ddelwau teuluol yma, eilun wedi ei gerfio a delw o fetel tawdd? Beth ydych chi am ei wneud?”

15. Felly dyma nhw'n galw heibio a mynd i dŷ y Lefiad ifanc oedd biau Micha, a'i gyfarch, “Sut mae pethau?”

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 18