Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 18:2-12 beibl.net 2015 (BNET)

2. Felly dyma lwyth Dan yn anfon pump o ddynion dewr i ysbïo'r wlad. Dyma nhw'n gadael Sora ac Eshtaol, a cyrraedd tŷ Micha ym mryniau Effraim, a dyna ble wnaethon nhw aros dros nos.

3. Dyma nhw'n clywed y dyn ifanc o lwyth Lefi yn siarad pan oedden nhw wrth dŷ Micha. Roedden nhw'n nabod ei acen. Felly dyma nhw'n galw heibio a dechrau ei holi, “Sut ddest ti yma? Beth wyt ti'n wneud yma? Beth ydy dy fusnes di?”

4. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw beth oedd Micha wedi ei wneud iddo. “Dw i wedi cael swydd ganddo, fel offeiriad,” meddai.

5. “Oes gen ti neges gan Dduw i ni?” medden nhw. “Dŷn ni eisiau gwybod os byddwn ni'n llwyddiannus.”

6. A dyma'r offeiriad yn ateb, “Gallwch fod yn dawel eich meddwl. Mae'r ARGLWYDD gyda chi bob cam o'r ffordd!”

7. Felly dyma'r pump yn mynd ymlaen ar eu taith ac yn dod i Laish. Doedd y bobl oedd yn byw yno yn poeni am ddim – roedden nhw fel pobl Sidon, yn meddwl eu bod nhw'n hollol saff. Doedden nhw'n gweld dim perygl o gwbl a doedd neb yn eu bygwth nhw na dwyn oddi arnyn nhw. Roedden nhw'n bell oddi wrth Sidon i'r gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw un arall chwaith.

8. Dyma'r dynion yn mynd yn ôl at eu pobl i Sora ac Eshtaol. A dyma'r bobl yn gofyn iddyn nhw, “Wel? Sut aeth hi?”

9. A dyma nhw'n ateb, “Dewch! Dŷn ni wedi dod o hyd i le da. Dewch i ymosod arnyn nhw! Peidiwch eistedd yma'n diogi! Rhaid i ni fynd ar unwaith a chymryd y tir oddi arnyn nhw.

10. Maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n hollol saff. Mae yna ddigon o dir yna, ac mae Duw yn ei roi i ni! Mae popeth sydd ei angen arnon ni yna!”

11. Felly dyma chwe chant o ddynion Dan yn gadael Sora ac Eshtaol, yn barod i frwydro.

12. Dyma nhw'n gwersylla yn Ciriath-iearim yn Jwda. (Mae'r lle yn dal i gael ei alw yn Wersyll Dan hyd heddiw. Mae i'r gorllewin o Ciriath-iearim.)

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 18