Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 18:13-22 beibl.net 2015 (BNET)

13. Yna dyma nhw'n mynd yn eu blaenau i fryniau Effraim a chyrraedd tŷ Micha.

14. A dyma'r pum dyn oedd wedi bod yn chwilio'r ardal yn dweud wrth y lleill, “Wyddoch chi fod yna effod ac eilun-ddelwau teuluol yma, eilun wedi ei gerfio a delw o fetel tawdd? Beth ydych chi am ei wneud?”

15. Felly dyma nhw'n galw heibio a mynd i dŷ y Lefiad ifanc oedd biau Micha, a'i gyfarch, “Sut mae pethau?”

16. Roedd y chwe chant o filwyr yn sefyll wrth giât y dref.

17. Tra roedd yr offeiriad yn sefyll yno gyda'r milwyr, dyma'r pum dyn oedd wedi bod yn ysbïo'r wlad yn torri i mewn i'w dŷ, a dwyn yr eilun wedi ei gerfio, yr effod, yr eilun-ddelwau teuluol a'r ddelw o fetel tawdd.

18. Pan welodd yr offeiriad nhw, dyma fe'n gofyn, “Beth ydych chi'n wneud?”

19. A dyma nhw'n dweud wrtho, “Paid dweud dim! Tyrd gyda ni. Cei di fod yn gynghorydd ac offeiriad i ni. Fyddai hi ddim yn well cael bod yn offeiriad i lwyth cyfan yn Israel nag i deulu un dyn?”

20. Roedd yr offeiriad wrth ei fodd. Cymerodd yr effod, eilun-ddelwau'r teulu a'r eilun wedi ei gerfio a mynd gyda nhw.

21. I ffwrdd â nhw gyda'r plant, yr anifeiliaid a'r eiddo i gyd ar y blaen.

22. Yna pan oedden nhw wedi mynd yn reit bell o dŷ Micha, dyma Micha a chriw o ddynion oedd yn gymdogion iddo yn dod ar eu holau.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 18