Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 16:16-30 beibl.net 2015 (BNET)

16. Roedd hi'n dal ati i swnian a swnian ddydd ar ôl dydd nes roedd Samson wedi cael llond bol.

17. A dyma fe'n dweud popeth wrthi. “Dw i erioed wedi cael torri fy ngwallt. Ces fy rhoi yn Nasaread i Dduw, cyn i mi gael fy ngeni. Petai fy ngwallt yn cael ei dorri byddwn yn colli fy nghryfder. Byddwn i mor wan ac unrhyw ddyn arall.”

18. Pan sylweddolodd Delila ei fod wedi dweud ei gyfrinach wrthi, dyma hi'n anfon am arweinwyr y Philistiaid. Ac meddai wrthyn nhw, “Dewch yn ôl, mae e wedi dweud wrtho i beth ydy'r gyfrinach.”Felly dyma arweinwyr y Philistiaid yn mynd yn ôl ati, a'r arian i'w thalu hi gyda nhw.

19. Dyma Delila'n cael Samson i gysgu, a'i ben ar ei gliniau. Yna dyma hi'n galw dyn draw i dorri ei wallt i gyd i ffwrdd – y saith plethen. A dyna ddechrau'r cam-drin. Roedd ei gryfder i gyd wedi mynd.

20. Dyma hi'n gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” A dyma fe'n deffro, gan feddwl, “Gwna i yr un peth ag o'r blaen, a chael fy hun yn rhydd.” (Doedd e ddim yn sylweddoli fod yr ARGLWYDD wedi ei adael e.)

21. Dyma'r Philistiaid yn ei ddal a thynnu ei lygaid allan. Yna dyma nhw'n mynd ag e i'r carchar yn Gasa. Yno dyma nhw'n rhoi cadwyni pres arno a gwneud iddo falu ŷd.

22. Ond cyn hir roedd ei wallt yn dechrau tyfu eto.

23. Roedd arweinwyr y Philistiaid wedi dod at ei gilydd i ddathlu, a chyflwyno aberthau i'w duw, Dagon. Roedden nhw'n siantio,“Ein duw ni, Dagon –mae wedi rhoi Samsonein gelyn, yn ein gafael!”

24. Roedd y bobl i gyd yn edrych ar eu duw ac yn ei foli. “Mae'n duw ni wedi rhoi ein gelyn yn ein gafael. Roedd e wedi dinistrio'n gwlad, a lladd cymaint ohonon ni.”

25. Pan oedd y parti'n dechrau mynd yn wyllt dyma nhw'n gweiddi, “Dewch â Samson yma i ni gael ychydig o adloniant!”Felly dyma nhw'n galw am Samson o'r carchar, i roi sioe iddyn nhw. A dyma nhw'n ei osod i sefyll rhwng dau o'r pileri.

26. Dyma Samson yn dweud wrth y bachgen oedd yn ei dywys, “Gad i mi deimlo pileri'r deml, i mi gael pwyso arnyn nhw.”

27. Roedd y deml yn orlawn o bobl, ac roedd arweinwyr y Philistiaid i gyd yno. Roedd tair mil o bobl ar y to yn gwylio Samson ac yn gwneud hwyl ar ei ben.

28. A dyma Samson yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. “O Feistr, ARGLWYDD, cofia amdana i! Gwna fi'n gryf dim ond un waith eto, O Dduw. Gad i mi daro'r Philistiaid un tro olaf, a dial arnyn nhw am dynnu fy llygaid i!”

29. Yna dyma Samson yn rhoi ei ddwylo ar y ddau biler oedd yn cynnal to'r deml, a gwthio, un gyda'r llaw dde a'r llall gyda'r chwith.

30. “Gad i mi farw gyda'r Philistiaid!” gwaeddodd. Roedd yn gwthio mor galed ag y medrai, a dyma'r adeilad yn syrthio ar ben arweinwyr y Philistiaid a phawb arall oedd y tu mewn.Lladdodd Samson fwy o Philistiaid pan fuodd e farw, nag yn ystod gweddill ei fywyd i gyd!

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 16