Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 15:9-20 beibl.net 2015 (BNET)

9. Yna dyma'r Philistiaid yn mynd i ymosod ar Jwda. Roedden nhw ar wasgar drwy ardal Lechi.

10. A dyma arweinwyr Jwda yn gofyn iddyn nhw, “Pam ydych chi'n ymosod arnon ni?”“Dŷn ni eisiau cymryd Samson yn garcharor,” medden nhw, “a thalu'r pwyth yn ôl iddo am beth wnaeth e i ni.”

11. Felly dyma dair mil o ddynion Jwda yn mynd i lawr i'r ogof wrth Graig Etam, a dweud wrth Samson, “Wyt ti ddim yn sylweddoli mai'r Philistiaid sy'n ein rheoli ni? Beth wyt ti'n feddwl wyt ti'n wneud?”“Dim ond talu'r pwyth yn ôl wnes i. Gwneud iddyn nhw beth wnaethon nhw i mi,” meddai Samson.

12. A dyma ddynion Jwda yn dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod yma i dy ddal di a dy roi di i'r Philistiaid yn garcharor.”“Wnewch chi addo i mi na wnewch chi fy lladd i eich hunain?” meddai Samson.

13. A dyma nhw'n dweud, “Dŷn ni'n addo. Wnawn ni ddim ond dy rwymo di a dy roi di'n garcharor iddyn nhw. Wnawn ni ddim dy ladd di.”Felly dyma nhw'n ei rwymo gyda dwy raff newydd a mynd ag e o Graig Etam.

14. Pan gyrhaeddodd Lechi, dyma'r Philistiaid yn dechrau gweiddi'n uchel wrth fynd draw at Samson. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno'n rymus, a dyma'r rhaffau oedd yn rhwymo'i freichiau yn torri fel brethyn wedi llosgi!

15. Dyma fe'n gweld asgwrn gên asyn oedd heb sychu. Gafaelodd yn yr asgwrn a lladd mil o ddynion gydag e!

16. A dyma Samson yn dweud,“Gydag asgwrn gên asyngadewais nhw'n domenni!Gydag asgwrn gên asynmil o filwyr leddais i!”

17. Yna taflodd Samson yr asgwrn ar lawr, a galwodd y lle yn Ramath-lechi (sef “Bryn yr Asgwrn Gên”).

18. Roedd Samson yn ofnadwy o sychedig a dyma fe'n galw ar yr ARGLWYDD, “Ar ôl rhoi buddugoliaeth fawr i mi, wyt ti'n mynd i adael i mi farw o syched, a gadael i'r paganiaid yma fy nghael i?”

19. Felly dyma Duw yn hollti'r basn sydd yn y graig yn Lechi, a dyma ddŵr yn pistyllio allan. Pan yfodd Samson y dŵr, dyma fe'n dod ato'i hun. A dyma fe'n galw'r lle yn En-hacore (sef "Ffynnon y Galw") – mae'n dal yna yn Lechi hyd heddiw.

20. Buodd Samson yn arwain Israel am ugain mlynedd pan oedd y Philistiaid yn rheoli'r wlad.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 15