Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 11:20-37 beibl.net 2015 (BNET)

20. Ond doedd Sihon ddim yn trystio pobl Israel i adael iddyn nhw groesi ei dir. Felly dyma fe'n galw ei fyddin at ei gilydd a codi gwersyll yn Iahats, i ymosod ar Israel.

21. Ond dyma'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn eu galluogi nhw i drechu Sihon a'i fyddin gyfan. A dyma Israel yn cymryd tiroedd yr Amoriaid i gyd –

22. o'r Afon Arnon yn y de i'r Afon Jabboc yn y gogledd ac o'r anialwch yn y dwyrain i'r Iorddonen yn y gorllewin.

23. “Felly, yr ARGLWYDD, Duw Israel, wnaeth yrru'r Amoriaid allan o flaen pobl Israel. Pa hawl sydd gen ti i'w gymryd oddi arnyn nhw?

24. Cadw di beth mae dy dduw Chemosh yn ei roi i ti. Dŷn ni am gadw tiroedd y bobloedd mae'r ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'n blaen ni.

25. Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n gryfach na Balac fab Sippor, brenin Moab? Wnaeth e fentro ffraeo gyda phobl Israel? Wnaeth e ymladd yn eu herbyn nhw?

26. Mae pobl Israel wedi bod yn byw yn y trefi yma ers tri chan mlynedd – Cheshbon ac Aroer a'r pentrefi o'u cwmpas, a'r trefi sydd wrth Afon Arnon. Pam ydych chi ddim wedi eu cymryd nhw yn ôl cyn hyn?

27. “Dw i ddim wedi gwneud cam â ti. Ti sydd ar fai yn dechrau'r rhyfel yma. Heddiw bydd yr ARGLWYDD, y Barnwr, yn penderfynu pwy sy'n iawn – pobl Israel neu'r Ammoniaid!”

28. Ond wnaeth brenin Ammon gymryd dim sylw o neges Jefftha.

29. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Jefftha. Dyma fe'n mynd â'i fyddin trwy diroedd Gilead a Manasse, pasio trwy Mitspe yn Gilead, ac ymlaen i wynebu byddin yr Ammoniaid.

30. Dyma Jefftha yn addo ar lw i'r ARGLWYDD, “Os gwnei di adael i mi guro byddin yr Ammoniaid,

31. gwna i roi i'r ARGLWYDD beth bynnag fydd gyntaf i ddod allan o'r tŷ i'm cwrdd i pan af i adre. Bydda i'n ei gyflwyno yn aberth i'w losgi'n llwyr i Dduw.”

32. Yna dyma Jefftha a'i fyddin yn croesi i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth iddo.

33. Cafodd yr Ammoniaid eu trechu'n llwyr, o Aroer yr holl ffordd i Minnith a hyd yn oed i Abel-ceramim! – dau ddeg o drefi i gyd. Dyma fe'n eu difa nhw'n llwyr! Roedd yr Ammoniaid wedi eu trechu gan Israel.

34. Pan aeth Jefftha adre i Mitspa pwy redodd allan i'w groesawu ond ei ferch, yn dawnsio i gyfeiliant tambwrinau. Roedd hi'n unig blentyn. Doedd gan Jefftha ddim mab na merch arall.

35. Pan welodd hi, dyma fe'n rhwygo ei ddillad. “O na! Fy merch i! Mae hyn yn ofnadwy! Mae'n drychinebus! Dw i wedi addo rhywbeth ar lw i'r ARGLWYDD, a does dim troi'n ôl.”

36. Dyma ei ferch yn dweud wrtho, “Dad, os wyt ti wedi addo rhywbeth i'r ARGLWYDD rhaid i ti gadw dy addewid. Mae'r ARGLWYDD wedi cadw ei ochr e a rhoi buddugoliaeth i ti dros dy elynion, yr Ammoniaid.

37. Ond gwna un peth i mi. Rho ddau fis i mi grwydro'r bryniau gyda'm ffrindiau, i alaru am fy mod byth yn mynd i gael priodi.”

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 11