Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 11:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd dyn yn Gilead o'r enw Jefftha. Roedd yn filwr dewr. Putain oedd ei fam, ond roedd e wedi cael ei fagu gan ei dad, Gilead.

2. Roedd gan Gilead nifer o feibion eraill oedd yn blant i'w wraig. Pan oedd y rhain wedi tyfu dyma nhw'n gyrru Jefftha i ffwrdd. “Dwyt ti ddim yn mynd i etifeddu dim o eiddo'r teulu. Mab i wraig arall wyt ti.”

3. Felly roedd rhaid i Jefftha ddianc oddi wrth ei frodyr. Aeth i fyw i ardal Tob, ac yn fuan iawn roedd yn arwain gang o rapsgaliwns gwyllt.

4. Roedd hi beth amser ar ôl hyn pan ddechreuodd yr Ammoniaid ryfela yn erbyn Israel.

5. A dyna pryd aeth arweinwyr Gilead i ardal Tob i ofyn i Jefftha ddod yn ôl.

6. “Tyrd yn ôl i arwain y fyddin yn erbyn yr Ammoniaid,” medden nhw wrtho.

7. “Ond roeddech chi'n fy nghasáu i,” meddai Jefftha. “Chi yrrodd fi oddi cartref! A dyma chi, nawr, yn troi ata i am eich bod mewn trwbwl!”

8. “Mae'n wir,” meddai arweinwyr Gilead wrtho, “Dŷn ni yn troi atat ti i ofyn i ti arwain y frwydr yn erbyn yr Ammoniaid. Ond wedyn cei fod yn bennaeth Gilead i gyd!”

9. A dyma Jefftha'n dweud, “Iawn. Os gwna i ddod gyda chi, a'r ARGLWYDD yn gadael i mi ennill y frwydr, fi fydd eich pennaeth chi.”

10. Ac meddai'r arweinwyr, “Mae'r ARGLWYDD yn dyst a bydd yn ein barnu ni os na wnawn ni fel ti'n dweud.”

11. Felly dyma Jefftha'n mynd gydag arweinwyr Gilead a dyma fe'n cael ei wneud yn bennaeth ac arweinydd y fyddin. A dyma Jefftha'n ailadrodd telerau'r cytundeb o flaen yr ARGLWYDD yn Mitspa.

12. Yna dyma fe'n anfon negeswyr at frenin yr Ammoniaid i ofyn pam oedd e'n ymosod ar y wlad.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 11