Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 1:23-36 beibl.net 2015 (BNET)

23. Dyma nhw'n anfon ysbiwyr i'r dref (oedd yn arfer cael ei galw yn Lws).

24. Tra roedd yr ysbiwyr yn gwylio'r dref, roedden nhw wedi gweld dyn yn dod allan ohoni. A dyma nhw'n dweud wrtho, “Dangos i ni sut allwn ni fynd i mewn i'r dref, a gwnawn ni arbed dy fywyd di.”

25. Dangosodd y dyn iddyn nhw sut allen nhw fynd i mewn. Felly dyma nhw'n ymosod ac yn lladd pawb yn y dref. Dim ond y dyn oedd wedi dangos y ffordd i mewn iddyn nhw, a'i deulu, gafodd fyw.

26. Aeth y dyn hwnnw i fyw i ardal yr Hethiaid, ac adeiladu tref yno. Galwodd y dref yn Lws, a dyna'r enw arni hyd heddiw.

27. Wnaeth llwyth Manasse ddim gyrru allan bobl Beth-shean a Taanach a'u pentrefi, na Dor, Ibleam a Megido a'r pentrefi o'u cwmpas chwaith. Roedd y Canaaneaid yn dal i wrthod symud o'r ardaloedd hynny.

28. Yn ddiweddarach, pan oedd Israel yn gryfach, dyma nhw yn llwyddo i orfodi'r Canaaneaid i weithio fel caethweision iddyn nhw. Ond wnaethon nhw erioed lwyddo i'w gyrru nhw allan yn llwyr.

29. A wnaeth llwyth Effraim ddim gyrru allan y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser. Roedden nhw'n byw gyda nhw yn Geser.

30. Wnaeth llwyth Sabulon ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Citron a Nahalal. Roedd y Canaaneaid yn byw gyda nhw fel caethweision.

31. Wnaeth llwyth Asher ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Acco a Sidon, nac yn Achlaf, Achsib, Chelba, Affec a Rechob.

32. Felly roedd llwyth Asher yn byw yng nghanol y Canaaneaid i gyd, am eu bod heb eu gyrru nhw allan.

33. Wnaeth llwyth Nafftali ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Beth-shemesh na Beth-anath, ond dyma nhw'n eu gorfodi nhw i fod yn gaethweision. Roedd pobl Nafftali yn gorfod byw yng nghanol y Canaaneaid.

34. Cafodd llwyth Dan eu gorfodi gan yr Amoriaid i fyw yn y bryniau. Cawson nhw eu rhwystro rhag dod i lawr i fyw ar yr arfordir.

35. Roedd yr Amoriaid yn benderfynol o aros yn Har-cheres, Aialon, a Shaalfîm hefyd. Ond dyma lwythau meibion Joseff yn ymosod yn galed, a dyma nhw yn gorfodi'r Amoriaid i fod yn gaethweision iddyn nhw.

36. Roedd y ffin gyda'r Amoriaid yn rhedeg o Fwlch y Sgorpion ac i fyny heibio Sela.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 1