Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 1:20-31 beibl.net 2015 (BNET)

20. Cafodd tref Hebron ei rhoi i Caleb, fel roedd Moses wedi addo. Llwyddodd Caleb i yrru allan tri clan o bobl oedd yn ddisgynyddion i Anac.

21. Ond wnaeth llwyth Benjamin ddim gyrru allan y Jebwsiaid o Jerwsalem. Mae'r Jebwsiaid yn dal i fyw yn Jerwsalem gyda phobl llwyth Benjamin hyd heddiw.

22. Dyma'r ARGLWYDD yn helpu disgynyddion Joseff (sef llwythau Effraim a Manasse) pan wnaethon nhw ymosod ar Bethel.

23. Dyma nhw'n anfon ysbiwyr i'r dref (oedd yn arfer cael ei galw yn Lws).

24. Tra roedd yr ysbiwyr yn gwylio'r dref, roedden nhw wedi gweld dyn yn dod allan ohoni. A dyma nhw'n dweud wrtho, “Dangos i ni sut allwn ni fynd i mewn i'r dref, a gwnawn ni arbed dy fywyd di.”

25. Dangosodd y dyn iddyn nhw sut allen nhw fynd i mewn. Felly dyma nhw'n ymosod ac yn lladd pawb yn y dref. Dim ond y dyn oedd wedi dangos y ffordd i mewn iddyn nhw, a'i deulu, gafodd fyw.

26. Aeth y dyn hwnnw i fyw i ardal yr Hethiaid, ac adeiladu tref yno. Galwodd y dref yn Lws, a dyna'r enw arni hyd heddiw.

27. Wnaeth llwyth Manasse ddim gyrru allan bobl Beth-shean a Taanach a'u pentrefi, na Dor, Ibleam a Megido a'r pentrefi o'u cwmpas chwaith. Roedd y Canaaneaid yn dal i wrthod symud o'r ardaloedd hynny.

28. Yn ddiweddarach, pan oedd Israel yn gryfach, dyma nhw yn llwyddo i orfodi'r Canaaneaid i weithio fel caethweision iddyn nhw. Ond wnaethon nhw erioed lwyddo i'w gyrru nhw allan yn llwyr.

29. A wnaeth llwyth Effraim ddim gyrru allan y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser. Roedden nhw'n byw gyda nhw yn Geser.

30. Wnaeth llwyth Sabulon ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Citron a Nahalal. Roedd y Canaaneaid yn byw gyda nhw fel caethweision.

31. Wnaeth llwyth Asher ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Acco a Sidon, nac yn Achlaf, Achsib, Chelba, Affec a Rechob.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 1