Hen Destament

Testament Newydd

Amos 6:8-12 beibl.net 2015 (BNET)

8. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn tyngu iddo'i hun:“Dw i'n casáu balchder gwlad Jacob,ac yn ffieiddio ei phlastai.Bydda i'n cyhoeddi y bydd dinas Samaria a'i phoblyn cael eu rhoi yn llaw'r gelyn.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus.

9. Os bydd deg o bobl yn dal yn fyw mewn tŷ, byddan nhw'n marw.

10. Yna bydd perthynas yn dod i gasglu'r cyrff o'r tŷ – gyda'r bwriad o'u llosgi. A bydd yn galw ar rywun sy'n cuddio yng nghefn y tŷ, “Oes unrhyw un arall yn fyw ond ti?” ac yn cael yr ateb, “Na, neb.” Yna bydd yn dweud, “Ust! paid hyd yn oed â dweud enw'r ARGLWYDD”.

11. Felly, mae'r ARGLWYDD yn rhoi'r gorchymyn:“Mae'r tai mawr crand i gael eu chwalu'n ulw,a'r tai cyffredin hefyd, yn ddarnau mân.”

12. Ydy ceffylau'n gallu carlamu dros greigiau mawrion?Ydy'n bosib ei aredig hefo ychen?Ac eto dych chi wedi troi cyfiawnder yn wenwyn marwolac wedi gwneud yr hyn sy'n iawn yn beth chwerw.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 6