Hen Destament

Testament Newydd

Amos 6:3-10 beibl.net 2015 (BNET)

3. Dych chi'n gwrthod derbyn fod dydd drwg yn dod.Dych chi'n gofyn am gyfnod o drais!

4. Druan ohonoch chi, sy'n diogi ar eich soffas ifori moethus.Yn gorweddian ar glustogau cyfforddus,ac yn mwynhau gwledda ar gig oena'r cig eidion gorau.

5. Yn mwmian canu i gyfeiliant y nabl –a meddwl eich bod chi'n gerddorion gwych fel y Brenin Dafydd!

6. Dych chi'n yfed gwin wrth y galwyniac yn pampro eich cyrff gyda'r olew gorau!Ond dych chi'n poeni dim fod dinistryn dod ar bobl Joseff!

7. Felly, chi fydd y rhai cyntaf i gael eich caethgludo,a hynny'n fuan iawn!Bydd y gwledda a'r gorweddian yn dod i ben!

8. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn tyngu iddo'i hun:“Dw i'n casáu balchder gwlad Jacob,ac yn ffieiddio ei phlastai.Bydda i'n cyhoeddi y bydd dinas Samaria a'i phoblyn cael eu rhoi yn llaw'r gelyn.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus.

9. Os bydd deg o bobl yn dal yn fyw mewn tŷ, byddan nhw'n marw.

10. Yna bydd perthynas yn dod i gasglu'r cyrff o'r tŷ – gyda'r bwriad o'u llosgi. A bydd yn galw ar rywun sy'n cuddio yng nghefn y tŷ, “Oes unrhyw un arall yn fyw ond ti?” ac yn cael yr ateb, “Na, neb.” Yna bydd yn dweud, “Ust! paid hyd yn oed â dweud enw'r ARGLWYDD”.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 6