Hen Destament

Testament Newydd

Amos 6:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Gwae chi sydd mor gyfforddus yn Seion,ac yn teimlo mor saff ar fryniau Samaria!Chi bobl bwysig y genedl sbesial ma –ie, chi mae pobl Israel yn troi atyn nhw am arweiniad.

2. Dych chi'n dweud wrthyn nhw,“Ewch draw i ddinas Calne, i weld sut mae pethau yno!Ewch yn eich blaen wedyn i Chamath fawr,ac i lawr i Gath y Philistiaid.Ydy pethau'n well arnyn nhw nag ar y ddwy wlad yma?Oes ganddyn nhw fwy o dir na chi?”

3. Dych chi'n gwrthod derbyn fod dydd drwg yn dod.Dych chi'n gofyn am gyfnod o drais!

4. Druan ohonoch chi, sy'n diogi ar eich soffas ifori moethus.Yn gorweddian ar glustogau cyfforddus,ac yn mwynhau gwledda ar gig oena'r cig eidion gorau.

5. Yn mwmian canu i gyfeiliant y nabl –a meddwl eich bod chi'n gerddorion gwych fel y Brenin Dafydd!

6. Dych chi'n yfed gwin wrth y galwyniac yn pampro eich cyrff gyda'r olew gorau!Ond dych chi'n poeni dim fod dinistryn dod ar bobl Joseff!

7. Felly, chi fydd y rhai cyntaf i gael eich caethgludo,a hynny'n fuan iawn!Bydd y gwledda a'r gorweddian yn dod i ben!

8. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn tyngu iddo'i hun:“Dw i'n casáu balchder gwlad Jacob,ac yn ffieiddio ei phlastai.Bydda i'n cyhoeddi y bydd dinas Samaria a'i phoblyn cael eu rhoi yn llaw'r gelyn.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus.

9. Os bydd deg o bobl yn dal yn fyw mewn tŷ, byddan nhw'n marw.

10. Yna bydd perthynas yn dod i gasglu'r cyrff o'r tŷ – gyda'r bwriad o'u llosgi. A bydd yn galw ar rywun sy'n cuddio yng nghefn y tŷ, “Oes unrhyw un arall yn fyw ond ti?” ac yn cael yr ateb, “Na, neb.” Yna bydd yn dweud, “Ust! paid hyd yn oed â dweud enw'r ARGLWYDD”.

11. Felly, mae'r ARGLWYDD yn rhoi'r gorchymyn:“Mae'r tai mawr crand i gael eu chwalu'n ulw,a'r tai cyffredin hefyd, yn ddarnau mân.”

Darllenwch bennod gyflawn Amos 6