19. Bydd fel petai rhywun yn dianc oddi wrth lewac yn sydyn mae arth yn dod i'w gyfarfod.Mae'n llwyddo i gyrraedd y tŷ'n ddiogel,ond yna'n pwyso yn erbyn y wal ac yn cael ei frathu gan neidr!
20. Felly bydd hi ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn dod –diwrnod tywyll fydd e, dim un golau!Ie, tywyllwch dudew heb lygedyn o olau!
21. “Dw i'n casáu eich gwyliau crefyddol chi,ac yn eu diystyru nhw.Dydy'ch addoliad chi'n rhoi dim pleser i mi.
22. Er i chi ddod i gyflwyno aberthau i'w llosgi i mi,ac offrymau bwyd, wna i ddim eu derbyn nhw.Gallwch ddod ac offrymu eich anifeiliaid gorau i mi,ond fydda i'n cymryd dim sylw o gwbl!
23. Plîs stopiwch ddod yma i forio canu eich emynau,does gen i ddim eisiau clywed sŵn eich offerynnau cerdd chi.
24. Beth dw i eisiau ydy gweld cyfiawnder fel dŵr yn gorlifo,a thegwch fel ffrwd gref sydd byth yn sychu.
25. “Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, bobl Israel?
26. “A nawr mae'n well gynnoch chi gario eich ‛brenin‛ Saccwth, a'ch delw o Caiwan – sef duwiau'r sêr dych chi wedi eu llunio i chi'ch hunain!
27. Felly, bydda i'n eich gyrru chi'n gaethion i wlad sydd tu draw i Damascus.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, sef yr un sy'n cael ei alw y Duw holl-bwerus.