Hen Destament

Testament Newydd

Amos 3:10-15 beibl.net 2015 (BNET)

10. Allan nhw ddim gwneud beth sy'n iawn!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Yn eu plastai maen nhw'n storio trysorausydd wedi eu dwyn trwy drais.”

11. Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:“Bydd gelyn yn amgylchynu'r wlad!Bydd yn rhwygo popeth oddi arniac yn ei gadael yn noeth.Bydd ei chaerau amddiffynnol yn cael eu hysbeilio'n llwyr!”

12. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Fel bugail yn ‛achub‛ unrhyw beth o safn y llew– dwy goes, neu ddarn o'r glust –dyna'r math o ‛achub‛ fydd ar bobl Israel sy'n byw yn Samaria.Dim ond coes y gwely neu gornel y fatras fydd ar ôl!

13. Gwranda ar hyn, a rhybuddia bobl Jacob”—fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus—

14. “Pan fydda i'n cosbi Israel am wrthryfela,bydda i'n dinistrio'r allor sydd yn Bethel.Bydd y cyrn ar gorneli'r alloryn cael eu torri ac yn disgyn ar lawr.

15. Bydda i'n dymchwel eu tai, a'u tai haf nhw hefyd.Bydd y tai oedd wedi eu haddurno ag ifori yn adfeilion.Bydd y plastai yn cael eu chwalu'n llwyr!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 3