9. Dw i wedi bod gyda ti ble bynnag rwyt ti wedi mynd, ac wedi dinistrio dy elynion o dy flaen di. Dw i'n mynd i dy wneud di'n enwog drwy'r byd i gyd.
10. Dw i'n mynd i roi lle i fy mhobl Israel fyw. Byddan nhw'n setlo yno, a fydd neb yn tarfu arnyn nhw. Fydd dynion creulon ddim yn achosi helynt iddyn nhw fel o'r blaen,
11. pan oeddwn i wedi penodi barnwyr i'w harwain nhw. Bellach, dw i wedi rhoi heddwch i ti oddi wrth dy holl elynion.” Mae'r ARGLWYDD yn cyhoeddi: “Fi, yr ARGLWYDD, sy'n mynd i adeiladu tŷ i ti – llinach frenhinol!
12. Ar ôl i ti farw a chael dy gladdu,bydda i'n codi un o dy linach yn dy le – mab i ti.A bydda i'n gwneud ei deyrnas e yn gadarn.
13. Bydd e yn adeiladu teml i'm anrhydeddu i;a bydda i'n gwneud yn siŵr y bydd e'n teyrnasu am byth.
14. Bydda i yn dad iddo, a bydd e'n fab i mi.Pan fydd e'n gwneud drwgbydda i'n defnyddio pobl i'w gosbi.
15. Ond fydda i ddim yn stopio bod yn ffyddlon iddo,yn wahanol i Saul pan wnes i ei symud e o dy ffordd di.
16. Bydd dy deulu di yn teyrnasu o'm blaen i am byth.Bydd dy orsedd yn gadarn fel y graig.”’”
17. Felly dyma Nathan yn mynd a dweud y cwbl wrth Dafydd.
18. A dyma'r Brenin Dafydd yn mynd i mewn i eistedd o flaen yr ARGLWYDD. “Feistr, ARGLWYDD Pwy ydw i? Dw i a'm teulu yn neb. Ac eto ti wedi dod â fi mor bell!
19. Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, Feistr, ARGLWYDD, ti wedi siarad am y dyfodol pell yn llinach dy was! Ai dyma'r ffordd wyt ti'n arfer delio gyda phobl, ARGLWYDD?
20. Beth alla i ddweud? Ti'n gwybod sut un ydy dy was, fy Meistr, ARGLWYDD.
21. Am dy fod wedi addo gwneud, ac am mai dyna oedd dy fwriad, ti wedi gwneud y pethau mawr yma, a dweud wrtho i amdanyn nhw.
22. “O, Feistr, ARGLWYDD, rwyt ti mor fawr! Does neb tebyg i ti! Does yna ddim duw arall heblaw ti. Dŷn ni wedi clywed am neb yr un fath â ti!
23. A pwy sy'n debyg i dy bobl di, Israel? Mae hi'n wlad unigryw ar y ddaear – yn wlad aeth Duw i'w gollwng yn rhydd a'u gwneud yn bobl iddo'i hun. Ti'n enwog am wneud pethau rhyfeddol pan wnest ti achub dy bobl o'r Aifft a gyrru'r cenhedloedd paganaidd a'u duwiau allan o'r tir oedd gen ti ar eu cyfer nhw.
24. “Ti wedi gwneud Israel yn bobl i ti dy hun am byth. Rwyt ti, ARGLWYDD, wedi dod yn Dduw iddyn nhw.