28. Nawr, ARGLWYDD, fy meistr, ti ydy'r Duw go iawn, ac mae dy eiriau di'n wir. Rwyt ti wedi addo gwneud y peth da yma i mi.
29. Felly, plîs bendithia linach dy was, iddi aros yn gadarn gyda thi am byth. Meistr, ARGLWYDD, am mai ti sy'n bendithio, bydd dy fendith yn aros ar fy llinach i am byth.”