Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 6:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Unwaith eto dyma Dafydd yn casglu milwyr gorau Israel at ei gilydd. Roedd yna dri deg mil ohonyn nhw.

2. Dyma nhw'n mynd gyda Dafydd i Baäla yn Jwda i nôl Arch Duw. Roedd yr enw ‛Arch Duw‛ yn cyfeirio at yr ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n eistedd ar ei orsedd uwch ben y ceriwbiaid.

3-4. Dyma nhw'n rhoi Arch Duw ar gert newydd a'i symud hi o dŷ Abinadab, oedd ar ben bryn. Roedd Wssa ac Achïo, meibion Abinadab, yn arwain y cert – Wssa wrth ymyl yr Arch, ac Achïo'n cerdded o'i blaen.

5. Ac roedd Dafydd a phobl Israel i gyd yn dathlu gyda hwyl o flaen yr ARGLWYDD, a canu i gyfeiliant pob math o offerynnau. Roedd ganddyn nhw delynau a nablau, drymiau, castanetau a symbalau.

6. Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Nachon, dyma'r ychen yn baglu, a dyma Wssa yn estyn ei law a gafael yn Arch Duw.

7. Roedd yr ARGLWYDD wedi digio gydag Wssa am y fath amarch. Cafodd ei daro'n farw yn y fan a'r lle wrth ymyl Arch Duw.

8. Roedd Dafydd wedi gwylltio fod yr ARGLWYDD wedi ymosod ar Wssa. Dyma fe'n galw'r lle yn Perets-Wssa (sef ‛ffrwydriad yn erbyn Wssa‛). A dyna ydy enw'r lle hyd heddiw.

9. Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar Dafydd y diwrnod hwnnw. “Sut all Arch yr ARGLWYDD ddod ata i?” meddai.

10. Doedd e ddim yn fodlon gadael i Arch yr ARGLWYDD fynd gydag e i Ddinas Dafydd. Aeth â hi i dŷ Obed-edom, dyn o Gath.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 6