Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 5:2-13 beibl.net 2015 (BNET)

2. Ar un adeg, pan oedd Saul yn frenin, ti oedd yn arwain byddin Israel i ryfel ac yn dod â nhw adre. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthot ti, ‘Ti sydd i ofalu am Israel, fy mhobl i. Ti fydd yn eu harwain nhw.’”

3. Felly pan ddaeth arweinwyr Israel i Hebron at Dafydd, dyma'r brenin yn gwneud cytundeb gyda nhw o flaen yr ARGLWYDD. A dyma nhw'n ei eneinio'n frenin ar Israel gyfan.

4. Roedd Dafydd yn dri deg oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin am bedwar deg o flynyddoedd.

5. Bu'n frenin ar Jwda yn Hebron am saith mlynedd a hanner, ac yna yn frenin yn Jerwsalem ar Jwda ac Israel gyfan am dri deg tair o flynyddoedd.

6. Aeth y brenin a'i filwyr i Jerwsalem i ymladd yn erbyn y Jebwsiaid (y bobl oedd yn byw yn yr ardal honno.) “Ddoi di byth i mewn yma!” medden nhw “Byddai hyd yn oed pobl ddall a chloff yn gallu dy droi di'n ôl!” Doedden nhw ddim yn credu y gallai Dafydd eu gorchfygu nhw.

7. Ond llwyddodd Dafydd i ennill caer Seion (sef Dinas Dafydd).

8. Roedd wedi dweud y diwrnod hwnnw, “Y ffordd mae rhywun yn mynd i goncro'r Jebwsiaid ydy drwy fynd i fyny'r siafft ddŵr. Dyna sut mae ymosod ar y ‛bobl ddall a chloff‛ yna sy'n casáu Dafydd gymaint.” (A dyna sydd tu ôl i'r dywediad, “Dydy'r dall a'r cloff ddim yn cael mynd i mewn i'r tŷ.”)

9. Aeth Dafydd i fyw i'r gaer, a'i galw yn Ddinas Dafydd. Dyma fe'n adeiladu o'i chwmpas o'r terasau at y palas.

10. Roedd Dafydd yn mynd yn fwy a mwy pwerus, achos roedd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, gydag e.

11. Dyma Hiram, brenin Tyrus, yn anfon negeswyr at Dafydd. Anfonodd seiri coed a seiri maen gyda nhw, a coed cedrwydd, i adeiladu palas i Dafydd.

12. Roedd Dafydd yn gweld mai'r ARGLWYDD oedd wedi ei wneud yn frenin ar Israel, ac wedi gwneud i'w deyrnas lwyddo'n fawr er mwyn ei bobl Israel.

13. Wedi iddo symud o Hebron i Jerwsalem dyma Dafydd yn cymryd mwy o gariadon a gwragedd, ac yn cael mwy o blant eto.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 5