Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 4:9-12 beibl.net 2015 (BNET)

9. Ond dyma Dafydd yn eu hateb nhw: “Mor sicr a bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un sydd wedi fy achub i o bob helynt.

10. Pan ddaeth rhyw ddyn ata i i Siclag i ddweud fod Saul wedi marw, roedd yn meddwl ei fod yn dod â newyddion da. Ond dyma fi'n gafael ynddo a'i ladd! Dyna oedd y wobr gafodd e am ei ‛newyddion da‛!

11. Dych chi wedi lladd dyn diniwed tra roedd yn cysgu yn ei dŷ ei hun! Rhaid i mi wneud i chi dalu am dywallt ei waed e, a'ch difa chi oddi ar wyneb y ddaear yma!”

12. Felly dyma Dafydd yn gorchymyn i'w filwyr ladd y ddau. Wedyn dyma nhw'n torri eu dwylo a'u traed i ffwrdd, a hongian y cyrff wrth y pwll yn Hebron. Ond dyma nhw'n cymryd pen Ish-bosheth, a'i gladdu lle roedd bedd Abner hefyd, yn Hebron.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 4