Roedd gan Jonathan, mab Saul, fab o'r enw Meffibosheth oedd yn gloff. Roedd e'n bump oed pan ddaeth y newydd o Jesreel fod Saul a Jonathan wedi eu lladd. Dyma ei nyrs yn gafael ynddo i ffoi. Ond wrth iddi ruthro dyma fe'n cwympo, a dyna pryd aeth e'n gloff.