Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 3:7-18 beibl.net 2015 (BNET)

7. Pan oedd Saul yn fyw roedd ganddo bartner o'r enw Ritspa, merch Aia. A dyma Ish-bosheth, mab Saul, yn cyhuddo Abner a gofyn iddo, “Pam wnest ti gysgu gyda partner fy nhad?”

8. Gwylltiodd Abner pan ddwedodd hynny, ac meddai, “Ai rhyw gi o Jwda ydw i? Dw i wedi bod yn ffyddlon hyd heddiw i deulu Saul dy dad, a'i frodyr a'i ffrindiau. Dw i ddim wedi dy fradychu di i ochr Dafydd. A dyma ti heddiw yn fy nghyhuddo i o bechu gyda'r wraig yna!

9. Boed i Dduw ddial arna i os na wna i dros Dafydd yr union beth mae'r ARGLWYDD wedi ei addo iddo.

10. Bydd y frenhiniaeth yn cael ei chymryd oddi ar deulu Saul. Bydda i'n helpu i wneud Dafydd yn frenin ar Israel a Jwda, yr holl ffordd o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de.”

11. Wnaeth Ish-bosheth ddim ei ateb yn ôl o gwbl, am fod ganddo ofn Abner.

12. Yna dyma Abner yn anfon neges at Dafydd. “Pwy sy'n rheoli'r wlad yma go iawn? Gwna di gytundeb gyda mi, a gwna i helpu i droi Israel gyfan atat ti.”

13. Atebodd Dafydd, “Iawn, ond ar un amod. Tyrd â Michal merch Saul gyda ti. Cei di ddod ata i wedyn.”

14. Yna dyma Dafydd yn anfon neges at Ish-bosheth, mab Saul. “Rho fy ngwraig Michal yn ôl i mi. Gwnes i gasglu blaengrwyn cant o Philistiaid i'w chael hi.”

15. Felly dyma Ish-bosheth yn gyrru dynion i'w chymryd hi oddi ar ei gŵr, Paltiel fab Laish.

16. A dyma'i gŵr yn ei dilyn hi yn wylo yr holl ffordd i Bachwrîm. Ond wedi i Abner ddweud wrtho am fynd adre, dyma fe'n troi'n ôl.

17. Yn y cyfamser roedd Abner wedi cael gair gydag arweinwyr Israel. “Ers amser nawr, dych chi wedi bod eisiau cael Dafydd yn frenin.

18. Wel, gwnewch hynny! Mae'r ARGLWYDD wedi dweud amdano, ‘Dw i'n mynd i ddefnyddio Dafydd i achub pobl Israel oddi wrth y Philistiaid ac oddi wrth eu gelynion i gyd.’”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 3