Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 3:5-16 beibl.net 2015 (BNET)

5. Y chweched oedd Ithream, plentyn Egla, gwraig arall i Dafydd.Cafodd y bechgyn yma i gyd eu geni pan oedd Dafydd yn byw yn Hebron.

6. Wrth i'r rhyfel fynd yn ei flaen rhwng pobl Saul a phobl Dafydd, roedd Abner yn ennill mwy a mwy o ddylanwad iddo'i hun ar ochr Saul.

7. Pan oedd Saul yn fyw roedd ganddo bartner o'r enw Ritspa, merch Aia. A dyma Ish-bosheth, mab Saul, yn cyhuddo Abner a gofyn iddo, “Pam wnest ti gysgu gyda partner fy nhad?”

8. Gwylltiodd Abner pan ddwedodd hynny, ac meddai, “Ai rhyw gi o Jwda ydw i? Dw i wedi bod yn ffyddlon hyd heddiw i deulu Saul dy dad, a'i frodyr a'i ffrindiau. Dw i ddim wedi dy fradychu di i ochr Dafydd. A dyma ti heddiw yn fy nghyhuddo i o bechu gyda'r wraig yna!

9. Boed i Dduw ddial arna i os na wna i dros Dafydd yr union beth mae'r ARGLWYDD wedi ei addo iddo.

10. Bydd y frenhiniaeth yn cael ei chymryd oddi ar deulu Saul. Bydda i'n helpu i wneud Dafydd yn frenin ar Israel a Jwda, yr holl ffordd o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de.”

11. Wnaeth Ish-bosheth ddim ei ateb yn ôl o gwbl, am fod ganddo ofn Abner.

12. Yna dyma Abner yn anfon neges at Dafydd. “Pwy sy'n rheoli'r wlad yma go iawn? Gwna di gytundeb gyda mi, a gwna i helpu i droi Israel gyfan atat ti.”

13. Atebodd Dafydd, “Iawn, ond ar un amod. Tyrd â Michal merch Saul gyda ti. Cei di ddod ata i wedyn.”

14. Yna dyma Dafydd yn anfon neges at Ish-bosheth, mab Saul. “Rho fy ngwraig Michal yn ôl i mi. Gwnes i gasglu blaengrwyn cant o Philistiaid i'w chael hi.”

15. Felly dyma Ish-bosheth yn gyrru dynion i'w chymryd hi oddi ar ei gŵr, Paltiel fab Laish.

16. A dyma'i gŵr yn ei dilyn hi yn wylo yr holl ffordd i Bachwrîm. Ond wedi i Abner ddweud wrtho am fynd adre, dyma fe'n troi'n ôl.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 3