Dyma Abner yn dweud wrth Dafydd, “Gad i mi fynd i gasglu Israel gyfan at fy meistr y brenin. Cân nhw wneud cytundeb gyda ti. Wedyn byddi'n frenin ar y cwbl roeddet ti wedi gobeithio amdano.” A dyma Dafydd yn gadael i Abner fynd yn heddychlon.