Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 3:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Aeth y rhyfel rhwng pobl Saul a pobl Dafydd ymlaen am hir. Roedd ochr Dafydd yn mynd yn gryfach ac yn gryfach, a dilynwyr Saul yn mynd yn wannach.

2. Cafodd Dafydd nifer o feibion pan oedd yn byw yn Hebron.Amnon oedd yr hynaf, plentyn Achinoam o Jesreel.

3. Yr ail oedd Cileab, plentyn Abigail o Carmel, gweddw Nabal.Y trydydd oedd Absalom, mab Maacha oedd yn ferch i Talmai, brenin Geshwr.

4. Y pedwerydd oedd Adoneia, mab Haggith.Y pumed oedd Sheffateia mab Abital.

5. Y chweched oedd Ithream, plentyn Egla, gwraig arall i Dafydd.Cafodd y bechgyn yma i gyd eu geni pan oedd Dafydd yn byw yn Hebron.

6. Wrth i'r rhyfel fynd yn ei flaen rhwng pobl Saul a phobl Dafydd, roedd Abner yn ennill mwy a mwy o ddylanwad iddo'i hun ar ochr Saul.

7. Pan oedd Saul yn fyw roedd ganddo bartner o'r enw Ritspa, merch Aia. A dyma Ish-bosheth, mab Saul, yn cyhuddo Abner a gofyn iddo, “Pam wnest ti gysgu gyda partner fy nhad?”

8. Gwylltiodd Abner pan ddwedodd hynny, ac meddai, “Ai rhyw gi o Jwda ydw i? Dw i wedi bod yn ffyddlon hyd heddiw i deulu Saul dy dad, a'i frodyr a'i ffrindiau. Dw i ddim wedi dy fradychu di i ochr Dafydd. A dyma ti heddiw yn fy nghyhuddo i o bechu gyda'r wraig yna!

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 3