Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 23:5-18 beibl.net 2015 (BNET)

5. Ie, dyna sut mae Duw'n gweld fy nheulu!Mae wedi gwneud ymrwymiad am byth i mi.Mae'r cwbl wedi ei drefnu – mae'n siŵr o ddigwydd!Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i mi lwyddoac yn dod â'r cwbl dw i eisiau yn wir.

6. Ond mae dynion drwg fel drainsy'n dda i ddim ond i'w torri i lawr.Does neb yn gafael ynddyn nhw â'u dwylo,

7. dim ond gydag arf haearn neu goes gwaywffon.Mae tân yn eu llosgi'n ulw yn y fan a'r lle!”

8. Dyma enwau milwyr dewr Dafydd:Iashofam yr Hachmoniad oedd pennaeth ‛Y Tri‛. Roedd e wedi lladd wyth gant o ddynion gyda'i waywffon mewn un frwydr.

9. Yna'r nesa ato fe o'r ‛Tri Dewr‛ oedd Eleasar fab Dodo o deulu Achoach. Roedd e gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan wnaethon nhw gasglu i ryfel yn Pas-dammîm. Roedd gweddill byddin Israel wedi ffoi,

10. ond dyma fe'n sefyll ei dir ac ymladd yn erbyn y Philistiaid. Roedd ei law wedi blino gymaint, ond wnaeth e ddim gollwng ei gleddyf. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo y diwrnod hwnnw. Yna daeth y fyddin yn ôl, ond dim ond i ddwyn pethau oddi ar y cyrff!

11. Y nesaf wedyn oedd Samma fab Age o deulu Harar. Un tro roedd byddin y Philistiaid wedi casglu yn Lechi lle roedd cae o ffacbys. Dyma fyddin Israel yn ffoi o flaen y Philistiaid,

12. ond roedd Samma wedi sefyll ei dir yng nghanol y cae, i'w amddiffyn. Roedd wedi ymosod ar y Philistiaid, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo.

13. Un tro, adeg y cynhaeaf, aeth tri o'r ‛Tri deg‛ i lawr at Dafydd i Ogof Adwlam. Roedd mintai o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn Reffaïm.

14. Roedd Dafydd yn y gaer ar y pryd, tra roedd prif wersyll garsiwn y Philistiaid yn Bethlehem.

15. Un diwrnod roedd syched ar Dafydd, a dyma fe'n dweud, “Mor braf fyddai cael diod o ddŵr o'r ffynnon sydd wrth giât Bethlehem!”

16. Felly dyma'r ‛Tri Dewr‛ yn mynd trwy ganol gwersyll y Philistiaid a chodi dŵr o'r ffynnon wrth giât Bethlehem. Dyma nhw'n dod a'r dŵr i Dafydd, ond gwrthododd ei yfed. A dyma fe'n ei dywallt ar lawr yn offrwm i'r ARGLWYDD,

17. a dweud, “ARGLWYDD, allwn i byth wneud y fath beth! Byddai fel yfed gwaed y dynion wnaeth fentro eu bywydau i'w nôl.” Roedd yn gwrthod ei yfed. (Dyna un enghraifft o beth wnaeth y ‛Tri Dewr‛.)

18. Abishai, brawd Joab a mab Serwia, oedd pennaeth y ‛Tri deg‛. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon un tro. Roedd e'n enwog fel y Tri.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 23