18. Abishai, brawd Joab a mab Serwia, oedd pennaeth y ‛Tri deg‛. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon un tro. Roedd e'n enwog fel y Tri.
19. I ddweud y gwir roedd yn fwy enwog na nhw, a fe oedd eu capten nhw. Ond doedd e ddim yn un o'r ‛Tri‛.
20. Roedd Benaia fab Jehoiada o Cabseël yn ddyn dewr hefyd. Roedd e wedi gwneud llawer o bethau dewr. Roedd wedi lladd dau o arwyr Moab. Roedd wedi mynd i lawr a lladd llew oedd wedi syrthio i bydew ar ddiwrnod o eira.
21. Roedd hefyd wedi lladd cawr o ddyn o'r Aifft. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma fe'n ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, a'i ladd gyda hi.
22. Pethau fel yna wnaeth Benaia fab Jehoiada yn enwog fel y ‛Tri Dewr‛.
23. Roedd y Tri deg arwr yn meddwl yn uchel ohono, er nad oedd yn un o'r ‛Tri‛. A dyma Dafydd yn ei wneud yn bennaeth ar ei warchodwyr personol.
24. Yna gweddill y ‛Tri deg‛ oedd:Asahel, brawd Joab,Elchanan fab Dodo o Bethlehem,
25. Shamma o Charod,Elica o Charod,
26. Chelets o Pelet,Ira fab Iccesh o Tecoa,
27. Abieser o Anathoth,Mefwnnai o Chwsha,
28. Salmon o deulu Achoach,Maharai o Netoffa,
29. Cheleb fab Baana o Netoffa,Itai fab Ribai o Gibea yn Benjamin,
30. Benaia o Pirathon,Hidai o Wadi Gaash,
31. Abi-albon o Arba,Asmafeth o Bachwrîm,
32. Eliachba o Shaalbon,Meibion Iashen,Jonathan fab
33. Shamma o Harar,Achïam fab Sharar o Harar,