Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 23:13-22 beibl.net 2015 (BNET)

13. Un tro, adeg y cynhaeaf, aeth tri o'r ‛Tri deg‛ i lawr at Dafydd i Ogof Adwlam. Roedd mintai o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn Reffaïm.

14. Roedd Dafydd yn y gaer ar y pryd, tra roedd prif wersyll garsiwn y Philistiaid yn Bethlehem.

15. Un diwrnod roedd syched ar Dafydd, a dyma fe'n dweud, “Mor braf fyddai cael diod o ddŵr o'r ffynnon sydd wrth giât Bethlehem!”

16. Felly dyma'r ‛Tri Dewr‛ yn mynd trwy ganol gwersyll y Philistiaid a chodi dŵr o'r ffynnon wrth giât Bethlehem. Dyma nhw'n dod a'r dŵr i Dafydd, ond gwrthododd ei yfed. A dyma fe'n ei dywallt ar lawr yn offrwm i'r ARGLWYDD,

17. a dweud, “ARGLWYDD, allwn i byth wneud y fath beth! Byddai fel yfed gwaed y dynion wnaeth fentro eu bywydau i'w nôl.” Roedd yn gwrthod ei yfed. (Dyna un enghraifft o beth wnaeth y ‛Tri Dewr‛.)

18. Abishai, brawd Joab a mab Serwia, oedd pennaeth y ‛Tri deg‛. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon un tro. Roedd e'n enwog fel y Tri.

19. I ddweud y gwir roedd yn fwy enwog na nhw, a fe oedd eu capten nhw. Ond doedd e ddim yn un o'r ‛Tri‛.

20. Roedd Benaia fab Jehoiada o Cabseël yn ddyn dewr hefyd. Roedd e wedi gwneud llawer o bethau dewr. Roedd wedi lladd dau o arwyr Moab. Roedd wedi mynd i lawr a lladd llew oedd wedi syrthio i bydew ar ddiwrnod o eira.

21. Roedd hefyd wedi lladd cawr o ddyn o'r Aifft. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma fe'n ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, a'i ladd gyda hi.

22. Pethau fel yna wnaeth Benaia fab Jehoiada yn enwog fel y ‛Tri Dewr‛.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 23