Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 23:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma eiriau olaf Dafydd:“Neges Dafydd fab Jesse.Neges yr un gafodd ei godi'n arweinydd,a'i eneinio gan Dduw Jacob.Neges hoff ganwr Israel.

2. Roedd Ysbryd yr ARGLWYDD yn siarad trwof fi;ei neges e oeddwn i'n ei rhannu.

3. Mae Duw Israel wedi siarad.Dyma mae Craig Israel yn ei ddweud:‘Mae'r un sy'n llywodraethu'n deg,gan roi parch i Dduw,

4. fel golau haul ar fore braf digwmwlyn gwneud i'r glaswellt dyfu o'r ddaeara sgleinio ar ôl y glaw.’

5. Ie, dyna sut mae Duw'n gweld fy nheulu!Mae wedi gwneud ymrwymiad am byth i mi.Mae'r cwbl wedi ei drefnu – mae'n siŵr o ddigwydd!Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i mi lwyddoac yn dod â'r cwbl dw i eisiau yn wir.

6. Ond mae dynion drwg fel drainsy'n dda i ddim ond i'w torri i lawr.Does neb yn gafael ynddyn nhw â'u dwylo,

7. dim ond gydag arf haearn neu goes gwaywffon.Mae tân yn eu llosgi'n ulw yn y fan a'r lle!”

8. Dyma enwau milwyr dewr Dafydd:Iashofam yr Hachmoniad oedd pennaeth ‛Y Tri‛. Roedd e wedi lladd wyth gant o ddynion gyda'i waywffon mewn un frwydr.

9. Yna'r nesa ato fe o'r ‛Tri Dewr‛ oedd Eleasar fab Dodo o deulu Achoach. Roedd e gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan wnaethon nhw gasglu i ryfel yn Pas-dammîm. Roedd gweddill byddin Israel wedi ffoi,

10. ond dyma fe'n sefyll ei dir ac ymladd yn erbyn y Philistiaid. Roedd ei law wedi blino gymaint, ond wnaeth e ddim gollwng ei gleddyf. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo y diwrnod hwnnw. Yna daeth y fyddin yn ôl, ond dim ond i ddwyn pethau oddi ar y cyrff!

11. Y nesaf wedyn oedd Samma fab Age o deulu Harar. Un tro roedd byddin y Philistiaid wedi casglu yn Lechi lle roedd cae o ffacbys. Dyma fyddin Israel yn ffoi o flaen y Philistiaid,

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 23