Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 22:39-51 beibl.net 2015 (BNET)

39. Bydda i'n eu dinistrio a'u taro,nes byddan nhw'n methu codi;bydda i'n eu sathru nhw dan draed.

40. Ti roddodd y nerth i mi ymladd;ti wnaeth i'r gelyn blygu o'm blaen;

41. Ti wnaeth iddyn nhw gilio yn ôl.Dinistriais y rhai oedd yn fy nghasáu yn llwyr.

42. Roedden nhw'n edrych am help,ond doedd neb i'w hachub!Roedden nhw'n troi at yr ARGLWYDD hyd yn oed!Ond wnaeth e ddim ateb.

43. Dyma fi'n eu malu nhw fel llwch ar lawr;a'u sathru dan draed fel baw ar y strydoedd.

44. Achubaist fi o afael y rhai oedd yn ymladd yn fy erbyn.Gwnest fi'n bennaeth ar y gwledydd.Mae pobloedd wyddwn i ddim amdanyn nhwyn derbyn fy awdurdod.

45. Mae estroniaid yn crynu o'm blaen.Maen nhw'n plygu wrth glywed amdana i!

46. Mae pobloedd estron wedi colli pob hyder,ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannau.

47. Ydy, mae'r ARGLWYDD yn fyw!Bendith ar y graig sy'n fy amddiffyn i!Boed i Dduw, wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu!

48. Fe ydy'r Duw sydd wedi dial ar fy rhan i,a gwneud i bobloedd blygu o'm blaen.

49. Fe ydy'r Duw sydd wedi fy achub i rhag fy ngelynion,a'm cipio o afael y rhai sy'n fy nghasáu.Mae wedi fy achub o ddwylo dynion treisgar.

50. Felly, O ARGLWYDD,bydda i'n dy foli di o flaen y cenhedloeddac yn canu mawl i dy enw:

51. Mae'n rhoi buddugoliaeth i'w frenin –un fuddugoliaeth fawr ar ôl y llall!Mae'n aros yn ffyddlon i'w eneiniog –i Dafydd, ac i'w ddisgynyddion am byth.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 22