Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 22:32-43 beibl.net 2015 (BNET)

32. Oes duw arall ond yr ARGLWYDD?Oes craig arall ar wahân i'n Duw ni?

33. Fe ydy'r Duw sy'n fy amddiffyn â'i nerth –mae'n symud pob rhwystr o'm blaen.

34. Mae'n rhoi coesau fel carw i mi;fydda i byth yn llithro ar y creigiau uchel.

35. Dysgodd fi sut i ymladd –dw i'n gallu plygu bwa o bres!

36. Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian.Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo.

37. Ti wnaeth i mi frasgamu ymlaena wnes i ddim baglu.

38. Es ar ôl fy ngelynion, a'u difa nhw;wnes i ddim troi'n ôl nes roedden nhw wedi darfod.

39. Bydda i'n eu dinistrio a'u taro,nes byddan nhw'n methu codi;bydda i'n eu sathru nhw dan draed.

40. Ti roddodd y nerth i mi ymladd;ti wnaeth i'r gelyn blygu o'm blaen;

41. Ti wnaeth iddyn nhw gilio yn ôl.Dinistriais y rhai oedd yn fy nghasáu yn llwyr.

42. Roedden nhw'n edrych am help,ond doedd neb i'w hachub!Roedden nhw'n troi at yr ARGLWYDD hyd yn oed!Ond wnaeth e ddim ateb.

43. Dyma fi'n eu malu nhw fel llwch ar lawr;a'u sathru dan draed fel baw ar y strydoedd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 22